Dewis eich iaith
Cau

Tair blynedd o aros am lawdriniaeth aren i fachgen 11 mlwydd oed

Mae ymchwiliad gan Ombwdsmon wedi canfod fod bachgen 11 mlwydd oed wedi aros bron i dair blynedd am lawdriniaeth i gael tynnu aren.

Cwynodd Mr B (Dienw) fod ei fab (“C”) wedi dioddef aros diangen a gafodd effaith ddifrifol ar ansawdd bywyd C. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu C yn dioddef heintiadau difrifol yn aml a fynnir triniaeth wrthfiotig, ac roedd rhaid gorchuddio clwyf agored ar ei ochr dair gwaith yr wythnos.

Derbyniwyd C i Ysbyty Cyffredin Glangwili yng Nghaerfyrddin yn gyntaf ym mis Mehefin 2014 yn dioddef o grawniad abdomenol. Cafodd y crawniad ei ddraenio ond datgelodd sgan MRI aren chwith a oedd yn dioddef o ail haint. Yn gynnar ym mis Mehefin, datgelodd sgan aren arbenigol nad oedd gan ei aren chwith unrhyw swyddogaeth. Ar ôl atgyfeiriad i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, cafodd ei lawdriniaeth ym mis Mai 2017.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr oediad hwn yn annerbyniol. Ni chafodd cyflwr C ei adolygu’n rheolaidd ac ni ystyriwyd effaith y cyflwr ar fywyd C. Ni ddywedodd Ysbyty Athrofaol Cymru wrth yr Ysbyty cyfeiriol na allent ddiwallu targedau triniaeth Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn, gan wrthod y cyfle i ystyried opsiynau eraill.

Dywedodd C ei fod yn teimlo fod ei ‘fywyd wedi bod ar atal’ yn aros am y llawdriniaeth, ac nad oedd yn gallu mwynhau gwneud pethau â’i ffrindiau megis chwarae pêl-droed neu nofio, ac na allai ymuno â chadetiaid fyddin gan na allai wneud unrhyw weithgareddau cyswllt.

Dywedodd C wrth ymchwilydd yr Ombwdsmon y byddai’n gofyn i’w rieni’n gyson pryd y byddai’n cael ei lawdriniaeth, ac mai’r unig ateb oedd nad oeddent yn gwybod, a bod hynny’n ei wneud yn anhapus iawn. Dywedodd ei rhieni y byddent yn gryf i C, ond y byddai’n llefain wrth fynd i’r gwely gan wybod nad oeddent yn gallu ei helpu.

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Caerdydd a’r Fro i ymddiheuro am y methiannau a nodir gan ymchwiliad yr Ombwdsmon ac maent wedi cytuno ar set o argymhellion.

Yn rhoi sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru:

“Dyma gyfres o ddigwyddiadau syfrdanol lle nad oedd plentyn 11 mlwydd oed yn gallu ffynnu am bron i dair blynedd oherwydd oedi hollol annerbyniol.

“Mae wedi bod yn brofiad ofnadwy i’r bachgen ifanc hwn a’i deulu ac mae’n debygol fod ei hawliau dynol wedi cael ei gyfaddawdu oherwydd yr effaith ar ei les corfforol a meddyliol, gan gynnwys maint y dioddefaint y mae wedi ei ddioddef.

“Rwyf wedi gosod argymhellion clir y mae’r ddau Fwrdd Iechyd wedi cytuno i gyflawni, a bydd fy swyddfa yn dilyn y rhain i sicrhau fod camau’n cael eu cymryd ac na fydd yr un camgymeriadau yn cael eu hailadrodd.”