26/05/2021
Iechyd Meddwl Oedolion
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202000537
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â darparu gofal a thriniaeth briodol i’w phartner, Mr B. Yn benodol, cwynodd Ms D fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu triniaeth a chymorth iechyd meddwl priodol i Mr B a bod Mr B wedi profi oedi ac anawsterau wrth gael diagnosis deuol ar gyfer ei salwch meddwl. Yn olaf, cwynodd Ms D fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chyfathrebu’n briodol â Ms D a Mr B, a oedd yn achosi gofid a phoen ychwanegol.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal asesiadau priodol ar gyfer Mr B ac wedi cynnig opsiynau triniaeth priodol iddo. Canfu’r ymchwiliad fod cynllun rheoli’r Bwrdd Iechyd yn briodol. Yn unol â hynny, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r elfen hon o gŵyn Ms D. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â Mr B a Ms D yn digwydd yn aml ac yn briodol. Er bod y Bwrdd Iechyd wedi anfon llythyr a oedd yn nodi’n anghywir nad oedd diagnosis wedi’i wneud yn dilyn asesiad seiciatrig Mr B, canfu’r ymchwiliad nad oedd hyn yn effeithio ar gynllun gofal na gofal clinigol Mr B. Yn unol â hynny, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r elfen hon o gŵyn Ms D.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd diagnosis deuol yn ymestyn i gyd-glefydedd penodol Mr B. Fodd bynnag, bu oedi cyn i Mr B gael diagnosis priodol ar gyfer ei broblemau iechyd meddwl gan y Bwrdd Iechyd. Bu oedi cyn i Mr B gael asesiad seiciatrig llawn a oedd yn fethiant yn y gwasanaeth. Arweiniodd hyn at anghyfiawnder i Mr B a Ms D oherwydd bod yr oedi wrth gael diagnosis wedi achosi ansicrwydd a gofid ychwanegol iddynt. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad nad oedd yr oedi cyn gwneud diagnosis wedi effeithio ar reolaeth glinigol Mr B ac felly cyfyngedig oedd yr anghyfiawnder.
Yn unol â hynny, fe wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau cwyn Ms D yn rhannol. Argymhellodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr B a Ms D am yr oedi yn asesiad seiciatrig Mr B ac y dylai’r Bwrdd Iechyd gynnal adolygiad i sicrhau bod cleifion y mae angen asesiad Seiciatrig Ymgynghorol arnynt yn cael eu hasesu’n brydlon.