Dewis eich iaith
Cau

Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon: Claf Canser yng Ngogledd Cymru yn gorfod aros 132 o Ddiwrnodau

Bu’n rhaid i glaf canser yng Ngogledd Cymru aros am 132 o ddiwrnodau cyn cael ei driniaeth gyntaf. Dyna mae ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ei ddatgelu.

Dangosodd meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd “ddiffyg brys ofnadwy” wrth ymdrin ag anghenion claf a oedd wedi cael diagnosis o ffurf ymosodol ar ganser y prostad. Dyna mae’r Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi’i ganfod.

Dyma’r trydydd adroddiad o ddiddordeb i’r cyhoedd a ryddhawyd gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r ysbyty yn y ddau fis diwethaf.

Cafodd Mr D (cuddir ei enw) ddiagnosis o ganser yng Ngorffennaf 2014. Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ddechrau ar eu triniaeth cyn pen 31 diwrnod, bu’n rhaid i Mr D aros mwy na phedair gwaith yr amser sydd yn y canllawiau. Nid yn unig roedd oedi wrth gynnal ymchwiliadau diagnostig, ond roedd oedi hefyd wrth drefnu llawdriniaeth i Mr D.

Mae’r Ombwdsmon hefyd wedi beirniadu’r modd y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymdrin â’r gŵyn ddilynol am ei ofal gan ddweud y byddai “wedi dwysau llawer ar lefel y gofid a’r pryder y byddai Mr D wedi ei brofi.”

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i nifer o argymhellion, gan gynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig llawn ac adolygiad o’r modd y mae ei Wasanaeth Wroleg yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Yn yr achos arbennig yma, roedd yna ddiffyg brys ofnadwy yn y modd yr atgyfeiriwyd rhwng meddygon ymgynghorol ar wahanol safleoedd ysbyty’r Bwrdd Iechyd.

“Ymddengys y bu methiant systematig i gydnabod ac ymateb i’r ffaith fod Mr D yn dioddef o ffurf ymosodol o ganser y prostad a allai fygwth ei fywyd ac a oedd angen triniaeth radical ar frys.

“Ni welais i ddim byd yn ymateb y Bwrdd Iechyd i fy ymchwiliad a allai gyfiawnhau methiant sydd wedi peri cymaint o bryder.

“Bydd fy swyddfa’n dilyn i fyny ar yr argymhellion y cytunwyd arnynt i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu cyn gynted ac sy’n ymarferol bosibl.”