Dewis eich iaith
Cau

Tîm Gweithredol

Panel Ymgynghorol

Pwyllgor Archwilio a Risg

 

Amdanom ni

Mae gennym bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Rydym hefyd yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri cod ymddygiad ei hawdurdod.

Rydym yn annibynnol oddi wrth bob corff llywodraeth ac mae ein gwasanaeth yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.

Mae gennym dîm o bobl sy’n asesu ac ymchwilio cwynion yn ogystal â gweithio i gefnogi arfer da gan gyrff yn ein hawdurdodaeth.

Tîm Gweithredol

Llun o Michelle Morris

Michelle Morris

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Wedi cychwyn yn swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill 2022, Michelle oedd Cyn-Reolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent.  Cyn hynny, bu’n gweithio i Gyngor yr Ucheldir yn yr Alban am 10 mlynedd, lle bu’n Swyddog Monitro a Dirprwy Brif Weithredwr. Cyn symud i’r Alban, bu’n gweithio mewn swyddi uwch mewn sawl awdurdod lleol yng Nghymru.

Daw Michelle yn wreiddiol o Sir Benfro a symudodd yn ôl i’r Sir yn ddiweddar.  Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Cranfield a Phrifysgol Morgannwg. Mae ganddi MSc. mewn Marchnata a MBA.

Datganiad o Fuddiannau Michelle Morris


Llun o Chris Vinestock

Chris Vinestock

Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwelliant

Cafodd Chris ei benodi fel Prif Swyddog Rheoli yn 2014. Mae Chris yn gyfrifydd cymwysedig â gradd yn economeg a chyllid, a MBA o Brifysgol Caerdydd. Cyn ymuno a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gweithiodd i Gyngor Caerdydd ac Abertawe mewn nifer o uwch rolau, yn ymdrin â chyfrifeg, archwilio, peirianneg, priffyrdd a thrawsgludiaeth.

Yn flaenorol i’w benodiad, roedd yn Bennaeth Gwasanaeth ar gyfer Priffyrdd a Thrawsgludiaeth yn Abertawe. Mae Chris yn Gadeirydd o’r Grŵp Adnoddau Dynol y Gymdeithas Ombwdsmon ac wedi gweithio’n agos â’r Gymdeithas i ddatblygu safonau gwasanaethau ar gyfer cynlluniau Ombwdsmon ar draws yr UD.

Datganiad o Fuddiannau Chris Vinestock


Llun o Katrin Shaw

Katrin Shaw

Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Cyfarwyddwr Ymchwiliadau

Magwyd Katrin yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru, a mynychodd Brifysgol Sheffield Hallam lle enillodd radd BA yn y gyfraith. Yn 1996, cafodd ei derbyn fel Cyfreithwraig a gweithiodd fel cyfreithwraig llywodraeth leol cyn iddi ymuno â swyddfa’r Ombwdsmon fel Ymchwiliwr yn 2001. Ers hynny, mae Katrin wedi cynnal swyddi rheoli yn y swyddfa a bellach yn Brif Gynghorwr Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau OGCC.

Roedd Katrin yn Gadeirydd o Grŵp Buddiant Cyfreithiol Cymdeithas yr Ombwdsmon rhwng 2016 a 2019 ac mae hi’n aelod o Gyngor Cyfiawnder Gweinyddol y DU.

Ym mis Hydref 2020, penodwyd yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro gan Gomisiynydd Safonau Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon ac mae hi’n gwirfoddoli i Age Connects Castell-nedd Port Talbot.

Datganiad o Fuddiannau Katrin Shaw 


Panel Ymgynghorol

Mae’r Panel Ymgynghorol yn fforwm anstatudol a’i brif rôl yw cefnogi’r Ombwdsmon wrth arwain y swyddfa a’i llywodraethu’n dda.

  • gweledigaeth, gwerthoedd a dibenion;
  • cyfeiriad strategol a chynllunio; a
  • perfformiad gweithredol, atebolrwydd a chyflawni

Hefyd, mae’r Panel Ymgynghorol yn cynnig persbectif allanol i helpu gyda’r gwaith o ddatblygu polisïau ac arferion.

Cynghori yn unig yw gwaith y Panel Ymgynghorol, ac nid yw’n gwneud penderfyniadau drwy ei hawl ei hun. Gellir ddod o hyd i Adolygiad Blynyddol 2022-23 y Panel Ymgynghorol yma.

 

Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Ombwdsmon drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynnol yw’r sicrwydd ynghylch llywodraethu, rheoli risg, amgylchedd rheoli a didwylledd datganiadau ariannol a’r adroddiad blynyddol.

Gellir ddod o hyd i Adolygiad Blynyddol 2022-23 y Pwyllgor Archwilio a Sichrau Risg yma.

 

Aelodau Panel Ymgynghorol / Aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Y Panel Ymgynghorol – Cylch Gorchwyl

Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – Cylch Gorchwyl

Polisi ar Ddatgan Buddiannau i Aelodau’r Panel Ymgynghorol ac Aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg

Ian Williams

Aelod o’r Panel Cynghori / Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Roedd Ian yn Brif Weithredwr Grŵp Hendre nes iddo ymddeol yng Ngorffennaf 2017. Mae’n syrfëwr siartredig ac yn gymrawd o’r Sefydliad Tai. Gweithiodd Ian am fron i 40 mlynedd yn y mudiad Cymdeithas Tai yn Nhe Cymru a datblygodd Hendre i fod yn un o’r cymdeithasau tai traddodiadol mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu Gofal Tai a chefnogaeth i o gwmpas 20,000 o bobl, a chyflogi dros 1,250 staff.

Gwasanaethodd Ian drwy nifer o rolau anweithredol, gan gynnwys Cadeirydd Tai Cymunedol Cymru a Chadeirydd o Bartneriaeth Tai Cymru.

Datganiad o Fuddiannau Ian Williams

Carys Evans

Aelod o’r Panel Cynghori

Roedd Carys yn Bennaeth Data a Dealltwriaeth yn S4C nes 2019, yn defnyddio ystod o dechnegau ansoddol a meintiol i ddadansoddi tueddiadau cynulleidfaoedd ac anghenion sy’n newid. Bu’n gweithio yn y gorffennol hefyd i CBAC, ITV Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.

Mae Carys wedi gwasanaethu fel Aelod o Fwrdd Cyngor Defnyddwyr Cymru rhwng 2000 a 2008 ac i Gynulleidfaoedd Cymru rhwng 2006 a 2015.

Datganiad o Fuddiannau Carys Evans

Joanest Varney-Jackson 

Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Graddiodd Joanest o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ac fe’i derbyniwyd yn gyfreithwraig yn 1982. Yn wreiddiol o Sir Benfro, arweiniodd gyrfa yn adrannau cyfreithiol amryw awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr at ffordd o fyw eithaf nomadaidd iddi. Yn 1992 dychwelodd i Gymru o Fwrdeistref Harrow yn Llundain. Yn 2000 ymunodd Joanest â Chynulliad Cenedlaethol Cymru gan weithio’n bennaf ym maes drafftio a chraffu deddfwriaethol nes ymddeol yn 2017.

Datganiad o Fuddiannau Joanest Varney-Jackson

Jane Martin CBE

Aelod o’r Panel Cynghori / Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Ymunodd Dr Jane Martin â Bwrdd Ymgynghori OGCC ym mis Medi 2019. Tan fis Ionawr 2017, bu Jane yn Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Chadeirydd y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yn Lloegr. Jane oedd Cyfarwyddwr Gweithredol cyntaf y Ganolfan Craffu Gyhoeddus. Bellach mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ac yn aelod anweithredol o Fwrdd y Swyddfa dros Gwynion Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Dyfarnwyd CBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn newydd 2017 am ei gwasanaeth i gyfiawnder gweinyddol a thryloywder mewn llywodraeth leol.

Datganiad o Fuddiannau Jane Martin

Mike Usher

Aelod o’r Panel Cynghori / Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Yn 2020, ymddeolodd Mike Usher o Archwilio Cymru, lle bu’n aelod o’r Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol a’r arweinydd strategol ar gyfer gwaith archwilio allanol ariannol a gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol ar draws llywodraeth ganolog a GIG Cymru.  Roedd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwiliol yn gyfrifol am archwilio i bryderon am wasanaethau cyhoeddus gan aelodau Senedd, ASau a’r cyhoedd. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru pan sefydlwyd yn 2005, Mike oedd Pennaeth Archwilio’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Datganiad o Fuddiannau Mike Usher

John McSherry

Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Gweithiodd John i’r Admiral Group Limited am 27 mlynedd mewn sawl rôl, gan gynnwys arwain adrannau Hawliadau Moduron ac ymdrin â hawliadau anaf corfforol trychinebus.   Mae ef wedi cynrychioli Admiral ar bwyllgorau allanol fel pwyllgor technegol MIB a phwyllgor hawliadau eiddo ABI.  Ef oedd Pennaeth Hawliadau Cartref a Phennaeth Hawliadau Cynhyrchion Atodol nes iddo adael ym mis Mawrth 2019.  Mae gan John radd BSc (Agored) yn cynnwys Rheoli Busnes, Cyllid Personol ac Economeg ac mae’n Gydymaith i’r Chartered Insurance Institute (ACII) ac yn aelod o CII Cyngor Abertawe. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Avantia Home Protect.

Datganiad o Fuddiannau John McSherry

Bernie Davies

Aelod o’r Panel Cynghori

Mae Bernie yn siaradwr TEDx, yn Awdures hynod boblogaidd, yn Arweinydd Amrywiaeth ac Entrepreneuriaeth, gyda gyrfa gyfreithiol flaenorol ym maes eiddo. Mae’n Gyn-Gadeirydd Siambr Fasnach Castell-nedd, yn aelod o Fwrdd Hanes Pobl Dduon Cymru ac Elusen Gelfyddydau Fio, yn Llysgennad i Glwb Entrepreneuriaid y Gymanwlad a Busnes Cymru, yn Fentor yn Pwer Cyfartal Llais Cyfartal, yn Hyfforddwr Cyflymydd Llywodraeth Cymru a hi yw Sylfaenydd Bernie Davies Global. Mae Bernie yn cefnogi rhaglenni entrepreneuriaeth sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth, ar gyfer banciau mawr, prifysgolion ac asiantaethau’r llywodraeth. Ar Ddiwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, 2022, dyfarnwyd y teitl mawreddog Llysgennad dros Heddwch i Bernie gan y Ffederasiwn Heddwch Cyffredinol am ei gwaith mewn Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant. Mae Bernie wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfrannwr cyson i BBC Radio Cymru ac yn arbenigwr cyfryngau i’r BBC ac ITV.

Datganiad o Fuddiannau Bernie Davies

Dave Tosh OBE

Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

Dave oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd nes iddo ymddeol ym mis Ionawr 2022. Treuliodd Dave 10 mlynedd yn y Senedd a chyn hynny, bu’n gweithio mewn Llywodraeth Leol, y Diwydiant Awyrofod a gwasanaethodd am 12 mlynedd fel Swyddog Comisiynu yn yr Awyrlu Brenhinol. TGCh yw cefndir proffesiynol Dave. Ers ymddeol, mae Dave wedi ymgymryd â rôl ran-amser fel ymgynghorydd hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth. Mae Dave hefyd yn eistedd fel Ynad.

Datganiad o Fuddiannau Dave Tosh

Nia Roberts

Aelod o’r Panel Cynghori

Mae Nia wedi gweithio mewn sawl rôl ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi yn Llywodraeth Cymru. Mae hi’n Dwrnai Patent Ewropeaidd, yn Ffisegydd Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Ffiseg. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Nia yn siaradwr Cymraeg ac yn byw yn Llandudno, Gogledd Cymru. Mae Nia wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys fel aelod o Rwydwaith Cynghori Strategol ar gyfer y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, aelod o Bwyllgor Sefydliad Ffiseg Cymru a chyn hynny fel Cadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd.

Datganiad o Fuddiannau Nia Roberts

Sue Phelps MBE

Aelod o’r Panel Cynghori

Mae Sue wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr ers dros 40 mlynedd. Gan symud i Gymru ym 1986, bu’n gweithio yn Mencap cyn cael seibiant i fagu dwy ferch. Dechreuodd Sue weithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer ym 1995 fel gweinyddwr yn dilyn marwolaeth ei thaid a fu’n dioddef ag Alzheimer. Gweithiodd mewn nifer o rolau datblygu gwasanaeth, rheoli ac arwain cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwlad yng Nghymru ym mis Medi 2017. Gan weithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gyda’u llais yn ganolog, bu’n ymgyrchu ac yn cefnogi hawliau pawb â dementia a’r sawl sy’n gofalu amdanynt, gan hyrwyddo’r angen am fuddsoddiad mewn ymchwil i roi gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd Sue yn falch iawn o dderbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i ddementia yng Nghymru. Mae Sue yn frwd dros chwaraeon ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Annibynnol ar Fwrdd Criced Cymru ers 2018. Mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor EDI ac aelod o’r Is-bwyllgor Cyllid.

Datganiad o Fuddiannau Sue Phelps