Dewis eich iaith
Cau

Asesiad o’r baich anghymesur: Cymryd camau i sicrhau hygyrchedd gwefan gyfredol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff yn y sector cyhoeddus, yn amodol ar amrywiol eithriadau ac amodau, wneud y canlynol:

  • Gwneud gwefannau a rhaglenni symudol y sector cyhoeddus yn hygyrch.
  • Darparu datganiad hygyrchedd.

Mae’r rheoliadau hygyrchedd yn datgan nad oes angen i gorff sector cyhoeddus fodloni’r gofyniad hygyrchedd pe bai hyn yn rhoi baich anghymesur arnynt, ar yr amod bod asesiad baich anghymesur yn cael ei gynnal.

Rydyn ni wedi cynnal asesiad baich anghymesur ar y camau posibl y gallem eu cymryd i sicrhau hygyrchedd ein gwefan bresennol. Mae hyn yn golygu nad ydyn ni’n gallu cynnig fersiynau cwbl hygyrch o’r wefan ar hyn o bryd. Mae’r asesiad isod yn nodi ein rhesymau, ar y sail bod cynnyrch newydd i fod i ddisodli’r wefan bresennol cyn bo hir.

Y broblem

Nid yw ein gwefan yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd. Fe wnaeth Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wirio’r wefan (https://www.ombudsman.wales/) ar 9 Hydref 2023 yn erbyn safon AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Ar sail y profion, penderfynodd fod y safle’n cydymffurfio’n rhannol â WCAG 2.1 AA. Mae hyn yn golygu nad ydy rhai pethau’n gwbl hygyrch. Mae’r rhain yn cynnwys materion sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • hygyrchedd rhywfaint o gynnwys y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd a chwyddo uchel (dros 200%)
  • gwelededd ffocws bysellfwrdd a rhai nodweddion llywio mewn rhai rhannau o’r wefan ar chwyddo uchel (dros 200%)
  • nid yw llywio drwy’r bysellfwrdd bob amser yn adlewyrchu dilyniant llywio sy’n gyson ag ystyr cynnwys
  • diffyg gallu i ddiystyru rhywfaint o gynnwys heb newid y cyfleuster hofran neu’r ffocws
  • cyferbyniad lliw mewn rhai rhannau o’r wefan
  • diffyg testun ALT a theitlau tudalennau mewn dogfen PDF a brofwyd

Roedd yr archwiliad yn pwysleisio ei fod ddim ond yn canolbwyntio ar y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd ac y gallai archwiliad llawn o’r wefan ddatgelu materion hygyrchedd eraill. Nododd yr archwiliad hefyd ddiffyg Datganiad Hygyrchedd cyfredol.

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddwy wefan ar wahân, yn Saesneg (www.ombudsman.wales) ac yn Gymraeg (psow-old-cymraeg.spindogsombudsman.co.uk). Bydd unrhyw faterion hygyrchedd sy’n effeithio ar y Saesneg hefyd yn effeithio ar y wefan Gymraeg.

Rhoddodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wybod i ni am y bwriad i ailbrofi ein gwefan ar ôl 2 Chwefror 2024 i sicrhau bod unrhyw faterion hygyrchedd wedi cael sylw.

Manteision creu fersiwn hygyrch

Byddai defnyddwyr yn gallu defnyddio gwefan gwbl hygyrch Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, gan helpu i gael gwared ar rwystrau y gallai rhai defnyddwyr fod yn eu hwynebu wrth ymgysylltu â chynnwys Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Baich

Mae dwy ffordd o ddatrys y problemau presennol:

  • cynnal archwiliad hygyrchedd llawn a diwygio’r wefan bresennol yn unol â chanfyddiadau’r archwiliad
  • datblygu gwefan newydd, gyda ffocws clir ar fodloni safonau hygyrchedd ac archwiliad hygyrchedd a gynhaliwyd cyn lansio’r wefan.

Asesiad

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi nodi ac wedi mynd i’r afael â rhai materion hygyrchedd mewn modd tameidiog. Er enghraifft, fe wnaethom ni ddatblygu lliwiau brand newydd i sicrhau bod y lliwiau sy’n cyferbynnu ar draws y rhan fwyaf o’r safle yn hygyrch. Fodd bynnag, mae’r diwygiadau cynyddol hyn yn golygu costau sylweddol ac nid ydynt yn caniatáu i ni fynd i’r afael â materion ehangach o ran hygyrchedd taith defnyddwyr ar ein gwefan. Am y rheswm hwn, ym mis Tachwedd 2022 roedden ni wedi gwahodd ceisiadau tendro i ddatblygu gwefan newydd.

Roedd manyleb y tendr ar gyfer y prosiect hwn yn pwysleisio bod yn rhaid i’r cynnyrch gydymffurfio’n llwyr â W3C a bod defnyddwyr bregus yn gallu cael gafael arno’n rhwydd. Byddwn yn sicrhau bod dylunwyr ein gwefan yn ystyried y materion a’r gofynion hyn yn llawn a byddwn yn trefnu profion hygyrchedd ar gyfer y wefan newydd yn ystod y cyfnod datblygu ac ar ôl iddi gael ei lansio.

Mae’r wefan newydd ar y trywydd iawn i fod ar waith erbyn 27 Chwefror 2024.

Byddai cynnal archwiliad hygyrchedd o’n gwefan bresennol a mynd i’r afael â’r materion presennol ar hyn o bryd yn arwain at gostau uwch nag y mae gan y sefydliad arian ar eu cyfer. Ni fyddai ychwaith yn cynrychioli gwerth am arian, gan fod y cynnyrch newydd yn cael ei ddatblygu, gyda sylw i hygyrchedd yn rhan annatod o’r broses ddatblygu. O’r herwydd, byddai opsiwn 1 yn faich anghymesur ac mae’r ail ddewis yn well, ac mae eisoes ar waith.

Yng ngoleuni hyn, rydyn ni wedi gofyn i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth beidio ag ail-brofi ein gwefan nes bydd y cynnyrch newydd ar waith.