Dewis eich iaith
Cau

Beirniadu Bwrdd Iechyd yn Llym am Gymryd Dwy Flynedd i Ymateb i Gŵyn

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhuddo Bwrdd Iechyd o “ddiffyg parch dychrynllyd” ar ôl i fam orfod aros am bron i ddwy flynedd am ymateb i gŵyn ynghylch y driniaeth yr oedd ei mab wedi’i chael gan y GIG.

Er gwaethaf y ffaith fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cytuno â chyfres o argymhellion gan yr Ombwdsmon yn gynharach eleni, nid oedd y Bwrdd wedi llwyddo i anfon ymateb at Ms A (dim ei henw) ynghylch y driniaeth ar lygad ei mab.

Cwynodd Ms A i’r Bwrdd Iechyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2014 a chwynodd eto ym mis Ionawr 2016 am y diffyg gwybodaeth ynghylch yr ymchwiliad gwreiddiol. Canfu’r Ombwdsmon fod yr oedi wrth ddelio â chŵyn Ms A yn ormodol, a bod y diffyg gwybodaeth yn enghraifft o gamweinyddu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd yn benodol â’r Ombwdsmon i ymateb i’r mater fel setliad ffurfiol, ond yna methodd â chadw at y trefniant hwnnw. Yna dywedodd wrth Ms A y byddai’n ymateb erbyn dyddiad penodol, ac unwaith eto, methodd â chadw at hynny.

O ganlyniad, mae’r Ombwdsmon wedi cymryd y cam eithriadol o gyhoeddi adroddiad arbennig[1] – y cyntaf o’i fath erioed yn erbyn Bwrdd Iechyd.
Prif argymhelliad yr adroddiad hwn yw y dylai Prif Weithredwr Hywel Dda ymateb i’r Ombwdsmon yn bersonol, ar ôl adolygu’r adnoddau sydd ar gael i’r tîm cwynion a phryderon a chapasiti’r tîm i ddelio â’r cwynion a ddaw i law yn amserol.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Rwy’n siomedig na lwyddodd y Bwrdd Iechyd i gadw at ei addewid ac ymateb yn llawn i bryderon Ms A ynghylch triniaeth ei mab a hynny o fewn amserlen resymol.

“Mae’r ffaith nad yw’r mater hwn wedi’i ddatrys ar ôl bron i ddwy flynedd yn dangos diffyg parch dychrynllyd tuag at Ms A a’i mab, ac wedi ychwanegu straen diangen i deulu Ms A.

“Ers cyhoeddi’r adroddiad arbennig hwn, mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymateb i mi ac wedi cytuno i weithredu fy argymhellion. Fodd bynnag, yr wyf yn dal i bryderu’n ddifrifol ynghylch sut mae’r Bwrdd Iechyd yn rheoli ei drefniadau delio â chwynion, am ei ddidwylledd a’i lywodraethiad a byddaf yn ei fonitro’n ofalus dros y misoedd nesaf.”