Dewis eich iaith
Cau

Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon: Cyngor yn Ne Cymru’n Esgeuluso Plentyn Sy’n Derbyn Gofal

Mae cyngor yn Ne Cymru sydd wedi methu monitro cyfrif cynilo plentyn sy'n derbyn gofal yn ddigonol, gan ei adael gyda llai o arian nag y credai yr oedd ganddo hawl iddo, wedi cael ei feirniadu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno i’w swyddfa ei gynigion a’i gynllun gweithredu ar gyfer adolygu achosion plant eraill sy’n derbyn gofal, yn wyneb pryderon y gallai’r methiannau sydd wedi’u canfod fod yn systemig, gan effeithio ar blant eraill sy’n derbyn gofal ac sydd yng ngofal y Cyngor.

Cwynodd Mr N, (dienw), oedd yn ddyflwydd oed pan gafodd ef a’i frawd eu lleoli gyda gofalwyr maeth, wrth yr Ombwdsmon ar ôl i’w leoliad ddod i ben yn 2014.

Dywedodd y canlynol:

* Nid oedd y Cyngor wedi rheoli ei gynilion yn briodol ac yn unol â’i bolisi.
* Roedd rhywfaint o’i gynilion wedi cael ei ddefnyddio, heb ymgynghori ag ef, i dalu am dripiau y dylai fod wedi derbyn lwfans arbennig ar eu cyfer.
* Roedd y cynilion a dderbyniodd ym mis Ionawr 2015 yn sylweddol is nag y dylent fod yn ei farn ef.

Canfu ymchwiliad bod gwaith monitro’r Cyngor yn “ysbeidiol ac annigonol” ac yn cyfateb i gamweinyddu. Hefyd methodd gadw cofnodion digonol na chadw ei lyfr cynilion ar ddiwedd ei leoliad maethu, ac roedd hyn yn golygu ei bod yn aneglur pam fod cynilion Mr N mor isel ag yr oeddent.

Roedd y Cyngor yn cydnabod bod ei ymateb, pan wnaeth Mr N ei gŵyn wreiddiol iddo, wedi ymddangos yn “ddiystyriol neu anghydymdeimladol” o bosib, ac ymddiheurodd gan ddweud nad dyma oedd y bwriad.
Dywedodd yr Ombwdsmon bod yr achos yn codi materion pwysig yn gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal a’u cynilion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’i fod wedi rhannu’r adroddiad gyda Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd nad oedd wedi beirniadu’r Gofalwyr Maeth yn ei adroddiad o gwbl, ac mai ymchwiliad i gamau gweithredu’r Cyngor yn unig oedd hwn.

Gwnaeth yr Ombwdsmon gyfres o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r Cyngor wneud taliad o £3,310 i Mr N. Hyd yma, nid yw’r Cyngor wedi gwneud hynny.
Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Gobeithio y bydd y materion y mae fy ymchwiliad wedi’u codi’n arwain at newidiadau cadarnhaol ac at ddatblygu polisi cenedlaethol pellach ar gynilion tymor hir plant sy’n derbyn gofal, gan adlewyrchu’r angen am i gynghorau sicrhau canlyniadau y byddai pob rhiant da eu heisiau ar gyfer eu plant eu hunain.

“Mae’r achwynydd yn haeddu derbyn y taliad yma ac rydw i’n hynod siomedig bod y Cyngor wedi gwrthod gwneud hynny hyd yma.
“Os bydd yn parhau i wrthod, byddaf yn cael fy ngorfodi i gyflwyno adroddiad arbennig pellach, rhywbeth yr wyf ond wedi gorfod ei wneud unwaith erioed yn ystod fy nghyfnod fel Ombwdsmon.”