Dewis eich iaith
Cau

Yr Ombwdsmon yn beirniadu cyngor cymuned wrth iddo wrthod cydweithredu

Mae Cyngor Cymuned yng Ngogledd Cymru wedi ei labelu'n 'gyndyn' wrth iddo wrthod cydweithredu gydag ymchwiliad yr Ombwdsmon i ddarpariaeth ieithyddol. Canfu’r ymchwiliad bod y Cyngor wedi ‘gadael ei gymuned leol i lawr’ drwy beidio â darparu agendâu a dogfennau eraill y Cyngor yn ddwyieithog, gan rhoi siaradwyr Saesneg yn yr ardal o dan anfantais.

Cyflwynodd Mrs X (dienw) gŵyn i’r Ombwdsmon ynghylch cyfathrebu gwael Cyngor Cymuned Cynwyd â’r trigolion lleol. Er gwaethaf arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n datgan y dylai cynghorau fod yn gynhwysol drwy sicrhau nad oes neb yn teimlo o dan anfantais[2] roedd y Cyngor yn cynnal ei holl gyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn gosod rhai o’i hysbysiadau yn Gymraeg yn unig, a oedd yn atal Mrs X, sy’n ddi-Gymraeg, rhag cymryd rhan ym musnes y Cyngor.

Canfu ymchwiliad gan yr Ombwdsmon y gellid ystyried bod y Cyngor yn eithrio ac yn peri anfantais i’r rhai nad ydynt yn deall Cymraeg drwy gyhoeddi agendâu a chofnodion yn Gymraeg yn unig. Ar ôl rhoi sawl cyfle i’r Cyngor ddatrys y mater o’i wirfodd, cyflwynodd yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, gan gynnwys ei fod yn cyhoeddi ei holl agendâu yn ddwyieithog. Serch hynny, mae Cyngor Cynwyd wedi gwrthod derbyn canfyddiadau’r Cyngor ac wedi gwrthod rhoi ei argymhellion ar waith.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Er fy mod yn llwyr gefnogi’r egwyddor fod unrhyw gyngor yng Nghymru’n cynnal ei fusnes drwy gyfrwng y Gymraeg, dylai hefyd sicrhau nad yw’r rheini sy’n ystyried Saesneg fel eu hiaith gyntaf, yn cael eu heithrio.

“Mae’n destun pryder fod y Cyngor wedi bod mor gyndyn o newid yn ystod fy ymchwiliad, ac mae’r ffaith ei fod wedi gwrthod ymddwyn yn rhesymol yn golygu ei fod wedi gadael ei gymuned leol i lawr, y trigolion sy’n siarad Cymraeg a’r rhai sy’n siarad Saesneg.

‘Mae’n siom fawr i mi fod Cyngor Cynwyd, drwy wrthod derbyn fy argymhellion cwbl resymol, wedi fy ngorfodi i gyhoeddi adroddiad budd y cyhoedd.”