Dewis eich iaith
Cau

Adroddiad yr Ombwdsmon yn Galw am ‘Adolygiad Systemig Annibynnol’ o Ofal y Tu Allan i Oriau mewn Ysbytai

Mae adroddiad newydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi galw am adolygiad systemig annibynnol o ofal y tu allan i oriau yn ysbytai Cymru.

Mae Y Tu Allan i Oriau: Amser i Ofalu? yn amlygu llawer o achosion mae’r Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt dros y pum mlynedd diwethaf sy’n dangos safonau annigonol y gofal oedd wedi’i roi i gleifion mewn ysbytai ledled Cymru y tu allan i oriau gweithio ‘arferol’.

Yn ogystal ag adolygiad, mae’r adroddiad yn amlygu meysydd eraill y dylid eu hystyried yn fanylach gan gynnwys goruchwylio staff iau yn well, blaenoriaethu gofal i gleifion mewnol a gwella trosglwyddo.
Mae’r themâu sy’n codi yn sgil yr achosion yn cynnwys:

 Diffyg darpariaeth ymgynghorwyr ar draws saith diwrnod
 Oedi gyda chynnal adolygiadau meddygol a diffyg adolygiadau ymgynghorwyr
 Diffyg uwch-oruchwyliaeth ar gyfer staff meddygol iau
 Methu bodloni safonau gofal sy’n bodoli eisoes a chanllawiau sefydledig.

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

“Er nad yw’r achosion sydd wedi’u hamlygu yn ein hadroddiad yn nodweddiadol fel y cyfryw o’r mwyafrif o dderbyniadau i ysbytai yng Nghymru, dydyn nhw hefyd ddim yn ymddangos fel digwyddiadau ‘unwaith yn unig’, a byddai adolygiad systemig annibynnol yn sicrhau y byddai unrhyw anghysondebau neu batrymau sy’n dod i’r amlwg yn cael eu cydnabod.

“Rwy’n gobeithio y bydd gwersi’n cael eu dysgu yn sgil yr adroddiad hwn, ac y bydd hyn yn arwain yn y pen draw at wasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru ac at leihad yn nifer y cwynion.

“Mae adroddiad diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ar y GIG yng Nghymru yn pwysleisio pwysigrwydd llais y claf ac rwy’n credu ei fod yn hollbwysig ein bod yn amlygu profiadau defnyddwyr gwasanaeth i wneud yn siŵr nad yw camgymeriadau’n cael eu hailadrodd.”