Dewis eich iaith
Cau

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cyhoeddi fframwaith ar y cyd ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus

Yn 2008, cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a oedd yn ceisio bod yn agored ac yn glir gyda’r achwynwyr a’r darparwyr gwasanaethau cyhoeddus am y mathau o ymddygiad sy’n ddisgwyliedig wrth iddyn nhw ddarparu gwasanaethau, a sut mae’r Ombwdsmon yn gwneud penderfyniadau ynghylch a fu unrhyw gamweinyddu neu fethiant yng nghyswllt y gwasanaeth.

Yr wythnos hon, mae rhifyn newydd wedi cael ei gyhoeddi sy’n cynnwys enghreifftiau i ddangos y mathau hyn o ymddygiad, ac mae’n cydnabod y cynnydd a wnaed yng nghyswllt safoni’r dull o ymdrin â chwynion yng Nghymru er 2008. Yn ychwanegol, mae’r Ombwdsmon a’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cydweithio i ddatblygu dwy Egwyddor newydd yn ymwneud â’r safonau sy’n ofynnol gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer rheoli cofnodion yn dda.

Dywedodd Christopher Graham, y Comisiynydd Gwybodaeth: “Mae gweinyddiaeth dda a delio’n dda â gwybodaeth yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel. Felly, mae’n briodol iawn fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi gallu cydweithio i lunio’r cyhoeddiad hwn ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru.”

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Rwy’n hynod o falch o fod wedi gallu gweithio gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth ar yr adolygiad o’r ddogfen bwysig hon ac rwy’n ddiolchgar am ei gyfraniad o ran y ddwy Egwyddor newydd hyn. Credaf y bydd y ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer pob darparwr gwasanaeth cyhoeddus i’w ddilyn wrth gyflawni eu dyletswyddau.”