Dewis eich iaith
Cau

Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon: Marwolaeth di-urddas claf oedrannus ar ôl diffyg ystyriaeth hawliau dynol gan Fwrdd Iechyd Gogledd Cymru

Yn dilyn marwolaeth dynes oedrannus ar droli mewn ysbyty, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am fethu ag ystyried urddas a hawliau dynol claf oedrannus, gan nodi bod y gofal a gafodd yn ‘anghyson ac yn niweidiol’.

Cafodd Mrs X (dienw) ei derbyn i Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn 2015 mewn cyflwr difrifol. Yn dilyn adolygiad meddygol, cytunwyd gyda theulu Mrs X oherwydd ei heiddilwch a’i hanes o ganser, mai dim ond gofal lliniarol[i] y dylai ei gael.

Fodd bynnag, dros yr 11 diwrnod nesaf, cafodd ei throsglwyddo ar ddau achlysur i Ysbyty Gwynedd 22 milltir i ffwrdd er mwyn cael sganiau CT na fyddent o fudd iddi o gwbl. Ni chafodd y sganiau hynny ac ar ei hail ymweliad, oherwydd prinder gwelyau a diffyg cyfathrebu ynghylch difrifoldeb ei chyflwr, cafodd Mrs X ei gadael ar droli lle bu farw’n fuan wedyn.

Cyfaddefodd y Bwrdd Iechyd fod oedi wedi bod cyn i Mrs X gael adolygiad gan feddyg uwch yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty am fod y meddyg ymgynghorol ar ei wyliau ac ni threfnwyd bod rhywun yn gweithio yn ei le, a gallai hyn fod wedi cyfrannu at y ‘gofal anghyson ac amhendant’ a gafodd.

Gan wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Aeth Betsi Cadwaladr i’r afael â gofal Mrs X mewn modd a oedd yn niweidiol i’w lles ac yn groes i egwyddorion gofal iechyd darbodus y Llywodraeth sydd â’r nod o ddarparu gofal sy’n ‘gwneud dim ond beth sydd ei angen a gwneud dim niwed, dim mwy, dim llai’.

“Mae gan fy swyddfa rôl i hyrwyddo hawliau dynol pobl gyffredin wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn yr achos yma, cafodd hawl Mrs X i gael ei thrin ag urddas ar ddiwedd ei hoes ei rhoi yn y fantol oherwydd penderfyniadau gwael ac anghyson, yn rhannol oherwydd absenoldeb meddyg ymgynghorol, ac mae hyn yn fethiant difrifol.

“Yn ogystal â’r gofid a achoswyd i’r teulu, cymerodd y Bwrdd Iechyd 17 mis i ymateb i bryderon Mr Y am nad oedd unrhyw un yn cymryd perchenogaeth dros y gŵyn, ac mae hyn yn annerbyniol.

“Er na allaf newid y canlyniad trist i Mrs X a’i theulu, gobeithio y bydd yr achos yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd urddas mewn gofal diwedd oes a hawliau dynol mewn ymarfer clinigol, yn ogystal â’r ffaith bod angen delio â chwynion yn brydlon ac yn effeithiol”.
______________________________
[i] er mwyn ei gwneud yn fwy cyfforddus ar ddiwedd ei hoes