Dewis eich iaith
Cau

Diabetig wedi marw o Emboledd ar ôl trychu bys ei droed

Canfu ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethu Cyhoeddus Cymru y gallai marwolaeth diabetig 42-mlwydd-oed a ddioddefodd Emboledd Ysgyfeiniol ddiwrnodiau ar ôl trychu bys ei droed fod wedi’i osgoi pe bai wedi cael ei drin yn wahanol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael ei feirniadu am y gofal a ddarpariwyd i’r gwryw, Mr C (anhysbys), ym mis Hydref 2016, ar ôl derbyn cwyn gan ei fam, Mrs B.

Canfu’r ymchwiliad:

• Gall atgyfeiriad cynharach, gan y Gwasanaeth Podiatreg at dîm arbenigol fod wedi arwain at driniaeth gyflymach o’i gyflwr ac efallai y byddai wedi osgoi’r angen i drychu bys troed Mr C.

• Dylai camau pellach fod wedi eu cymryd cyn rhyddhau Mr C, yn dilyn ei dderbyniad cyntaf i Ysbyty, a pe bai’r camau hyn wedi cael eu cymryd, efallai y byddai gofal Mr C wedi cael ei reoli’n wahanol.

• Canfu’r ymchwiliad hefyd bod Mr C mewn risg gynyddol o Thrombosis Gwythïen Ddofn (TGD)/ Emboledd Ysgyfeiniol (EY), a dylai amddiffyniad fod wedi’i barhau ar ôl iddo gael ei ryddhau o’i ail dderbyniad i Ysbyty.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i wneud taliad o £4,000 i gydnabod y methiannau a nodir yn yr adroddiad ac ymddiheuro mewn ysgrifen i deulu Mr C. Yn ychwanegol, cytunodd i ymgymryd ag ymchwiliad dadansoddi gwir achos y farwolaeth a rhoi cynllun gweithredu ar waith er mwyn atal y sefyllfa rhag digwydd eto.

Yn rhoi sylw ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasnaethau Cyhoeddus Cymru:

“Pe bai Mr C wedi ei drin yn y modd cywir, efallai y byddai’r canlyniad enbyd o drist yr achos hwn wedi’i osgoi.

“Yn benodol, rwy’n bryderus iawn bod y claf wedi cael ei ryddhau yn gynnar yn dilyn ei dderbyniad cyntaf i Ysbyty heb ystyriaeth lawn o’i gyflwr ac nad oedd wedi derbyn amddiffyniad priodol yn erbyn ei Thrombosis Gwythïen Ddofn ac Emboledd Ysgyfeiniol yn ystod ei ail ryddhad o Ysbyty. Mae’r achos hwn yn pwysleisio pwysigrwydd gweithdrefnau rhyddhau trwyadl ar gyfer pob claf.

“Dim ond 42 mlwydd oed oedd Mr C pan fu farw ac ni ellir bychanu effaith marwolaeth mor gynamserol ar ei deulu.”