Dewis eich iaith
Cau

Ombwdsmon yn rhybuddio bod Dioglewch Cleifion yn cael ei Beryglu

Mewn adroddiad thematig newydd, mae’r Ombwdsmon wedi rhybuddio bod diogelwch cleifion yn cael ei roi mewn perygl oherwydd bod y drefn ar gyfer rhyddhau cleifion o ysbytai Cymru yn aneffeithiol.

Roedd Adref yn Ddiogel Rhyddhau Cleifion yn Effeithiol o’r Ysbyty yn tynnu sylw at 16 achos lle’r oedd ysbytai Cymru wedi methu wrth ryddhau cleifion.

Canfu’r adroddiad enghreifftiau o’r canlynol:

  • Dim digon o ymwneud gan uwch feddygon ac ymgynghorwyr yn y broses ryddhau
  • Diffyg cyfathrebu effeithiol mewn ysbytai a rhyngddynt a gyda gwasanaethau cymunedol
  • Diffyg cynllunio effeithiol wrth ryddhau cleifion
  • Diffyg trefn effeithiol wrth ofalu am gleifion a’u rhyddhau
  • Methiant i gynnwys aelodau priodol o’r teulu yn y broses rhyddhau

Er i’r Ombwdsmon ddweud nad oedd yn teimlo bod yr achosion yn nodweddiadol o’r gwasanaethau a ddarperir gan y GIG yng Nghymru, fe ddywedodd ei fod yn bwysig bod gwersi’n cael eu dysgu o’r achosion.

Mae wedi awgrymu nifer o feysydd i’w hystyried yn y dyfodol gan gynnwys hyfforddiant i staff meddygol, uwch feddygon yn rhan o’r broses ryddhau lle bo hynny’n briodol, cyfathrebu gwell rhwng sefydliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd ac o’u mewn, ac asesiadau priodol i roi’r claf wrth galon y broses ryddhau.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

“Mae gadael yr ysbyty yn gallu bod yn broses anodd ac emosiynol i glaf, ac mae’n hollbwysig bod rhyddhau o’r ysbyty yn cael ei gyflawni’n ddiogel a bod y canllawiau cywir yn cael eu dilyn.

“Mae’r achoson yn fy adroddiad, er nad ydynt yn nodweddiadol o’r gwasanaeth a geir yn feunyddiol yn ein hysbytai, yn frawychus, ac wedi arwain at ddioddef diangen.

“Byddwn yn annog pob bwrdd iechyd i ddarllen yr adroddiad hwn a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu fel na fydd yn rhaid i gleifion eraill ddioddef yr un profiad.”