Dewis eich iaith
Cau

Yr Ombwdsmon yn cyhoeddi coflyfr sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol

Mae’r Ombwdsmon yn falch o gyhoeddi Coflyfr Hawliau Dynol cyntaf y swyddfa.

Dyma’r tro cyntaf y cyhoeddir y swyddfa gasgliad o achosion a ymdriniwyd â hwy gan yr Ombwdsmon lle mae materion hawliau dynol wedi’u codi fel rhan o’r gŵyn wreiddiol neu a fu’n ganolog i’r canfyddiadau.

Ymgorfforir y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 yr hawliau a rhyddid a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i gyfraith y DU. Manylir ein cyhoeddiad newydd un ar ddeg achos lle canfu’r Ombwdsmon fethiant gan gyrff cyhoeddus i ystyried neu ddiogelu’r hawliau a rhyddid hyn.

O’r achosion cynwysedig, mae chwech yn cynnwys cwynion yn erbyn Byrddau Iechyd, saith yn erbyn Awdurdod Lleol, un yn erbyn Cymdeithas Dai ac un yn erbyn swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Yn sgil tri achos, cyhoeddwyd adroddiadau diddordeb cyhoeddus o dan adran 16 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005. Arweiniwyd wyth ohonynt at gyhoeddi adroddiadau nad ydynt o ddiddordeb cyhoeddus o dan adran 21 o’r un ddeddf.

Cynhwysir yr achosion amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gofal diwedd oes, gwasanaethau cymdeithasol, ariannu gofal cartref a gofal mamolaeth, ac ati.

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Ym mhob un o’r achosion, ceir gwersi gwerthfawr i’w dysgu i sicrhau na cheir y camgymeriadau eu hailadrodd byth. Ar adeg pan mae ein gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau cynyddol, mae’n hanfodol inni beidio â cholli golwg ar bwysigrwydd trin pob unigolyn â pharch a thrugaredd.

“Fel Ombwdsmon, rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl gyffredin yn eu hymwneud â darparwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

“Drwy rannu achosion fel y rhain, lle bu ystyriaethau hawliau dynol yn ganolog i’r gŵyn wreiddiol neu ganlyniad, ein hamcan yw annog dysgu a gwella ymysg yr holl ddarparwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.”

I lawr lwytho coflyfr hawliau dynol newydd yr Ombwdsmon, ewch i’r ddolen yma.