Dewis eich iaith
Cau

Diweddariad ynglŷn â COVID-19

Yn unol â'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn monitro'n agos y sefyllfa barhaus o ran y Coronafeirws (COVID-19) ac yn rheoli'r effaith ar ein sefydliad, yn ogystal ag ar y gwasanaethau cyhoeddus allweddol yr ydym yn gweithio â nhw.

Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn fwy dibynnol nag erioed ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’r argyfwng hwn. Mae’n bwysig ein bod yn parhau â’n gwasanaeth cyfeirio sy’n dangos i unigolion bregus neu ynysig sut i ddod o hyd i wasanaethau a all ddarparu cefnogaeth iddynt yn ystod yr adeg anodd hon. Dyna pam rydym yn parhau i gynnig ein gwasanaeth, ond byddwn yn parhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, sy’n wynebu pwysau digyffelyb ar hyn o bryd.

Oherwydd y pwysau cyfredol sydd ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn eich annog i beidio â chyflwyno cwynion nad ydynt yn ddifrifol iawn i gyrff cyhoeddus neu’r Ombwdsmon. Os ceir cwyn cyfiawn ond bod y mater yn un bychan neu ddibwys nad yw’n effeithio lawer yn bersonol, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â’r gŵyn. Yn yr un modd, byddwn yn defnyddio ein “prawf diddordeb cyhoeddus” yn llym wrth ymdrin â chwynion Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau mai dim ond materion difrifol sy’n cael eu hymchwilio gennym.

Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i negeseuon ebost fel arfer. Rydym yn eich annog i gysylltu â ni trwy ebost pan fo hynny’n bosibl, neu trwy gyflwyno ffurflen gwyno trwy ein gwefan. Mae ein gwasanaeth ffôn wedi’i ohirio, ond mae ein system neges llais ar waith. Rydym yn dychwelyd galwadau yn y ystod y diwrnod gwaith, yn gyffredinol yr un diwrnod.

Yn unol â chyngor Llywodraeth y DU a Chymru, rydym wedi gwneud trefniadau amgen i alluogi ein staff i weithio gartref. Rydym yn gweithio i gynnal gwasanaeth rhagorol ac i aros yn hygyrch i bawb sydd angen ni. Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni ein dyddiadau targed arferol, ac efallai y bydd y sawl sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn profi amseroedd ymateb arafach na’r arfer. Mae post sy’n dod i mewn i’r swyddfa a phost sy’n cael ei anfon allan wedi’i darfu ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio i adfer gwasanaeth cyfyngedig.

Gan ein bod mewn sefyllfa sy’n symud yn gyflym, byddwn, wrth gwrs, yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan o ran unrhyw ddatblygiadau pwysig fy swyddfa.