Dewis eich iaith
Cau

“Anghyfiawnder Sylweddol” Wedi’i Achosi i Fam a Mab Oherwydd Methiant Bwrdd Iechyd i Ddarparu Gwasanaethau Seicolegol Priodol: Ymchwiliad gan yr Ombwdsmon

Achosodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “anghyfiawnder sylweddol” i fam a’i mab 17 oed, sydd ag awtistiaeth ddifrifol, yn aneiriol ac yn arddangos ymddygiad heriol, yn ôl adroddiad newydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl derbyn cwyn gan Ms B (di-enw). Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu â darparu gwasanaethau seicolegol priodol i Mr C, ac o ganlyniad, wedi methu â diwallu ei anghenion clinigol.

Canfu’r adroddiad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd camau prydlon a gwneud trefniadau i ddiwallu anghenion clinigol Mr C ar ôl cau gwasanaeth seicolegol.

Er i’r Bwrdd Iechyd ganfod nad oedd anghenion Mr C yn cael eu diwallu, methodd â rhoi unrhyw gynllun ar waith i ddiwallu’r anghenion hynny.

O ganlyniad, canfu’r adroddiad fod Ms B, fel prif ofalwr Mr C, wedi cael ei gadael heb gefnogaeth ddigonol i reoli ei ymddygiadau heriol. Roedd gohebu’r Bwrdd Iechyd â Ms B yn annigonol, a adawodd Ms B yn anwybodus ar adeg pan fu ymddygiadau heriol Mr C wedi’u cymhlethu ymhellach gan effaith cyfyngiadau symud COVID-19.

Yn ychwanegol, roedd ymatebion y Bwrdd Iechyd i gwynion Ms B yn annigonol ac nid oeddent yn unol â’r rheoliadau perthnasol.

Ni chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth o gynllunio wrth gefn pe bai’r gwasanaeth seicolegol yn dod i ben, a olygai nad oedd y Bwrdd Iechyd na’r cleifion a oedd yn derbyn y gwasanaeth seicolegol yn barod ar gyfer y diwedd sydyn.

Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Dyma achos o destun pryder mawr lle’r oedd mam yn teimlo “bod ei theulu wedi’i ddinistrio” a’i bod wedi cael ei gadael mewn sefyllfa “lle’r oedd ar fin rhoi Mr C mewn gofal oherwydd y diffyg cefnogaeth” gan y Bwrdd Iechyd.

“Roedd rhoi diwedd ar y Gwasanaeth Arbenigol wedi gadael blwch enfawr ym mywyd Ms B ac ym mywydau’r holl deuluoedd â phlant ag anableddau dysgu yn ardal y Bwrdd Iechyd. Nid yw Ms B am i deuluoedd eraill brofi’r hyn yr oedd hi a’i theulu wedi’i brofi, ac rwy’n rhannu’r pryder hwn”.

Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys bod y Bwrdd Iechyd:

  • Darparu ymddiheuriadau i Ms B am y methiannau clinigol, cyfathrebu ac ymdrin â chwynion a nodwyd yn ei adroddiad.
  • Atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd ymchwilio i gwynion a chreu ymatebion i gwynion yn unol â rheoliadau a chanllawiau cwynion perthnasol.
  • Ymgymryd ag adolygiad i nodi unrhyw gleifion eraill ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu o ganlyniad i gau’r Gwasanaeth Arbenigol, a sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddiwallu’r anghenion hynny naill ai gan y Bwrdd Iechyd neu asiantaethau eraill.
  • Comisiynu a chwblhau ei adolygiad arfaethedig o wasanaethau seicolegol plant y Bwrdd Iechyd, ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Ombwdsmon.

 I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.