Heddiw, rydym yn cyhoeddi fersiynau wedi’u diweddaru o ‘Egwyddorion Gweinyddu Da’ a chanllawiau ‘Materion yn Ymwneud â Rheoli Cofnodion yn Dda’.
Yn 2016, cyhoeddwyd ‘Egwyddorion Gweinyddiaeth Dda a Rheoli Cofnodion yn Dda’ gennym i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fel canllawiau statudol o dan adran 31 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Gwnaed y cyhoeddiad hwnnw ar y cyd â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Yn 2021, penderfynom adolygu’r egwyddorion a’u rhannu yn ddau gyhoeddiad ar wahân. Teimlasom y byddai hyn yn darparu cyrff cyhoeddus ac achwynwyr ag egwyddorion cyffredinol a chlir o ran arfer gweinyddu da, ynghyd â rhoi chyngor penodol ar wahân ar arfer gweinyddu da mewn perthynas â rheoli cofnodion.
Cynhaliom ymgynghoriad agored ar y ddwy ddogfen ym mis Hydref 2021. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn gadarnhaol ac yn cefnogi ein penderfyniad i gyhoeddi’r canllawiau fel dau gyhoeddiad ar wahân. Ymysg newidiadau eraill, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, cryfhawyd cyfeiriadau at y dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus o dan Safonau’r Gymraeg. Hoffwn ddiolch i’r holl ymatebwyr am eu hadborth.
‘Dywedodd Victor Hugo “newidia dy farn, ond cadw at dy egwyddorion; newidia dy ddail; ond cadw dy wreiddiau”. Credaf fod hyn yn ddyfyniad perffaith i gyrff cyhoeddus wrth iddynt drafod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.
Yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn, mae’n hanfodol i hyder y cyhoedd fod arweinyddiaeth a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i fod wedi’u gwreiddio i egwyddorion clasurol Nolan megis bod yn agored, yn atebol, ac yn deg. Yn yr un modd, mae cadw cofnodion yn dda yn angenrheidiol i greu hyder mewn unrhyw broses benderfynu, i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder, ac i alluogi eraill i wirio’r hyn a wnaed.
Gyda’r ddau gyhoeddiad hyn, fy ngobaith yw y byddwn yn cefnogi arfer da gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru wrth iddynt wynebu pwysau digyffelyb ar ddarpariaeth gwasanaeth.’