2021/22 yw blwyddyn lawn gyntaf ein cydymffurfiaeth â’n holl safonau’r Gymraeg.
Cawsom lawer o lwyddiannau eleni. Er enghraifft, gwnaethom
Nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion am ddarpariaeth Gymraeg ein gwasanaethau yn 2021/22.
Fodd bynnag, er ein bod yn hyderus ein bod yn cydymffurfio â’r safonau, gwyddom fod angen i ni wneud mwy.
Er enghraifft, mae ein data yn dangos yn gyson mai dim ond cyfran fechan o’r bobl sy’n cwyno wrthym sy’n datgan mai’r Gymraeg yw prif iaith eu cartref. Hefyd, dim ond canran fechan iawn sy’n dewis cwyno i ni yn y Gymraeg.
Byddwn yn edrych ar sut i fynd i’r afael ar y meysydd hyn ac eraill o dan ein Cynllun Strategol newydd sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Mae ein Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2021/22 i’w weld yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr Adroddiad hwn, neu os hoffech drafod yr Adroddiad yn fanylach, cysylltwch â
Ania Rolewska (Pennaeth Polisi, Cyfathrebu ac EDI)
ar ania.rolewska@ombwdsmon.cymru neu 07960 921 959.