Rydym wedi sefydlu Panel Ymgynghorol fel fforwm anstatudol a’i brif rôl yw i’n cefnogi i ddarparu arweiniad a llywodraethiant da i’r swyddfa. Mae ganddo hefyd Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, sy’n goruchwylio ein llywodraethiant, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli ac uniondeb datganiadau ariannol a’r adroddiad blynyddol.
Ceision ni recriwtio aelodau newydd i’r rolau llywodraethu hyn ym mis Tachwedd y llynedd. Gan adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd cydnabyddedig sy’n wynebu’r swyddfa a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan unigolion â phrofiad ym maes gwasanaethau iechyd, seiberddiogelwch, TGCh a digidol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Daw’r pedwar ymgeisydd llwyddiannus â chyfoeth o brofiad ar draws y meysydd blaenoriaeth hynny, ynghyd â dealltwriaeth eithriadol o sector cyhoeddus Cymru.
“Rwyf wrth fy modd o wneud y penodiadau hyn a fydd yn ehangu’r profiad, y wybodaeth a’r amrywiaeth y bydd ein Panel Ymgynghorol a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyfrannu at waith OGCC. Yn benodol, bydd y penodiadau hyn yn helpu i wella sut rydym yn darparu gwasanaethau ar draws cymunedau amrywiol ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’n haelodau newydd a phresennol dros y blynyddoedd i ddod ac at gyflawni’r nodau strategol a nodir yn ein cynllun strategol newydd.”
Mae Bernie yn siaradwr TEDx, yn Awdures hynod boblogaidd, yn Arweinydd Amrywiaeth ac Entrepreneuriaeth, gyda gyrfa gyfreithiol flaenorol ym maes eiddo. Mae’n Gyn-Gadeirydd Siambr Fasnach Castell-nedd, yn aelod o Fwrdd Hanes Pobl Dduon Cymru ac Elusen Gelfyddydau Fio, yn Llysgennad i Glwb Entrepreneuriaid y Gymanwlad a Busnes Cymru, yn Fentor yn Pwer Cyfartal Llais Cyfartal, yn Hyfforddwr Cyflymydd Llywodraeth Cymru a hi yw Sylfaenydd Bernie Davies Global. Mae Bernie yn cefnogi rhaglenni entrepreneuriaeth sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth, ar gyfer banciau mawr, prifysgolion ac asiantaethau’r llywodraeth. Ar Ddiwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, 2022, dyfarnwyd y teitl mawreddog Llysgennad dros Heddwch i Bernie gan y Ffederasiwn Heddwch Cyffredinol am ei gwaith mewn Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant. Mae Bernie wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfrannwr cyson i BBC Radio Cymru ac yn arbenigwr cyfryngau i’r BBC ac ITV.
Dywedodd Bernie, “Cefais y fraint o siarad yn OGCC yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon a chafodd y sefydliad a’i ymrwymiad gwirioneddol i degwch ac amrywiaeth cymaint o argraff arnaf. Pan ddaeth y cyfle i ymuno, yn rhinwedd y swydd hon, ni phetrusais ac rwy’n teimlo’n ostyngedig o gael fy mhenodi i wasanaethu am y 3 blynedd nesaf.”
Mae Sue wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr ers dros 40 mlynedd. Gan symud i Gymru ym 1986, bu’n gweithio yn Mencap cyn cael seibiant i fagu dwy ferch. Dechreuodd Sue weithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer ym 1995 fel gweinyddwr yn dilyn marwolaeth ei thaid a fu’n dioddef ag Alzheimer. Gweithiodd mewn nifer o rolau datblygu gwasanaeth, rheoli ac arwain cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwlad yng Nghymru ym mis Medi 2017. Gan weithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gyda’u llais yn ganolog, bu’n ymgyrchu ac yn cefnogi hawliau pawb â dementia a’r sawl sy’n gofalu amdanynt, gan hyrwyddo’r angen am fuddsoddiad mewn ymchwil i roi gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd Sue yn falch iawn o dderbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i ddementia yng Nghymru. Mae Sue yn frwd dros chwaraeon ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Annibynnol ar Fwrdd Criced Cymru ers 2018. Mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor EDI ac aelod o’r Is-bwyllgor Cyllid.
Dywedodd Sue, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi i’r Panel Ymgynghorol ac rwy’n dod â brwdfrydedd a pharodrwydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yng nghynllun strategol yr Ombwdsmon. Cyfiawnder yn un o’r rhinweddau rwy’n eu gwerthfawrogi fwyaf, felly rwy’n gweld hyn fel cyfle i chwarae rhan mewn sicrhau gwelliant systemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus i’r rhai sy’n dioddef anghyfiawnder, y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu siomi neu eu wedi’u gwthio i’r cyrion neu eu hallgáu mewn unrhyw ffordd.”
Mae Nia wedi gweithio mewn sawl rôl ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi yn Llywodraeth Cymru. Mae hi’n Dwrnai Patent Ewropeaidd, yn Ffisegydd Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Ffiseg. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Nia yn siaradwr Cymraeg ac yn byw yn Llandudno, Gogledd Cymru. Mae Nia wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys fel aelod o Rwydwaith Cynghori Strategol ar gyfer y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, aelod o Bwyllgor Sefydliad Ffiseg Cymru a chyn hynny fel Cadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd.
Dywedodd Nia, “Yn y cyfnod anodd hwn mae’n bwysicach nag erioed bod ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y gorau y gallant fod ac rwy’n gyffroes iawn i fod yn ymuno â’r tîm sy’n gweithio i sicrhau bod hynny’n digwydd.”
Dave oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd nes iddo ymddeol ym mis Ionawr 2022. Treuliodd Dave 10 mlynedd yn y Senedd a chyn hynny, bu’n gweithio mewn Llywodraeth Leol, y Diwydiant Awyrofod a gwasanaethodd am 12 mlynedd fel Swyddog Comisiynu yn yr Awyrlu Brenhinol. TGCh yw cefndir proffesiynol Dave. Ers ymddeol, mae Dave wedi ymgymryd â rôl ran-amser fel ymgynghorydd hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth. Mae Dave hefyd yn eistedd fel Ynad.
Dywedodd Dave, “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â’m cydweithwyr newydd ar Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Swyddfa Ombwdsmon Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i Bobl Cymru ac rwy’n falch o allu darparu fy nghefnogaeth mewn ffordd fach.”