Rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaeth ac yn gweithio i ni. Mae’n rhaid i ni hefyd gydymffurfio â’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Gydraddoldeb 2010 a dyletswyddau cydraddoldeb penodol yng Nghymru. O dan y dyletswyddau hynny, rhaid i ni baratoi Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion a’u hadolygu o leiaf bob pedair blynedd.
Dechreuodd ein Cynllun Cydraddoldeb blaenorol ym mis Hydref 2019 a daeth i ben yn 2022, ond gwnaethom ei ymestyn i fis Mawrth 2023. Rydym nawr yn cynnig Amcanion Cydraddoldeb newydd, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Strategol newydd, a lansiom ym mis Ebrill 2023.
Rydym yn gwahodd pob grŵp i rannu eu barn gyda ni am ein Cynllun Cydraddoldeb ac Amcanion arfaethedig.
I weld manylion llawn yr ymgynghoriad, cliciwch yma.
Am fersiwn llawn y Cynllun arfaethedig cliciwch yma.
Am fersiwn Hawdd ei Deall, cliciwch yma.
Gallwch ymateb
Trwy’r post:
|
Tîm Cyfathrebu, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ |
Trwy e-bost: | cyfathrebu@ombwdsmon.cymru |
Dros y ffôn: | 0300 790 0203 (dewiswch ddewis 3) |
Trwy ffurflen ar-lein: | cliciwch yma |