Dewis eich iaith
Cau

Ein Newyddlen Chwarterol – Ionawr 2024

Yn cwmpasu Medi - Rhagfyr 2023

Gair gan Michelle

Croeso i drydydd rhifyn ein newyddlen.

Unwaith eto, rydym yn dod â chrynodeb cyflym o’n gwaith diweddar i chi. Isod, gelwch ein prif dueddiadau cwynion hyd yma eleni a chrynodebau o’n tri adroddiad budd y cyhoedd newydd. Rydym hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu yn ehangach o un o’n hymchwiliadau ar ei liwt ei hun estynedig yn ogystal â chanlyniadau diweddar atgyfeiriadau Cod Ymddygiad.

 

Ein Cwynion

Hyd yn hyn yn ystod 2023/24, rydym wedi derbyn 7,287 o achosion newydd – ac o’r rhain, daeth 2,395 yn gwynion priodol.

O’i gymharu â’r adeg hon y llynedd, rydym yn gweld cynnydd yn nifer y cwynion am wasanaethau cyhoeddus ac am y Cod Ymddygiad. Hyd yma rydym wedi cael 5% yn fwy o gwynion am wasanaethau cyhoeddus a 18% yn fwy o gwynion am y Cod Ymddygiad.

Caeasom hefyd 7,382 o achosion – gyda 2,504 ohonynt yn gwynion. Hyd yn hyn eleni, caeasom 190 o ymchwiliadau am gwynion yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, gyda 90% ohonynt yn ymwneud ag iechyd. Bu cynnydd o 9% yn nifer y cwynion am wasanaethau cyhoeddus a gaewyd, a bu cynnydd o 5% yn nifer y cwynion am y Cod Ymddygiad a gaewyd.

I weld crynodebau o gwynion y gwnaethom eu datrys yn gynnar neu ymchwilio iddynt, gweler Ein Canfyddiadau.

 

Adroddiadau diddordeb cyhoeddus

Rhwng mis Awst a Rhagfyr, rydym wedi cyhoeddi 3 adroddiad budd y cyhoedd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (202004800)

Dioddefodd claf a fu o dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddallineb parhaol a bydd angen triniaeth gydol oes arno o ganlyniad i wasanaethau fasgwlaidd annigonol. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg   (202106392)

Efallai y gellid bod wedi atal dirywiad a marwolaeth claf â thorgest bogail pe na bai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi colli dau gyfle i’w dderbyn yn briodol. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (202107105 a 202205543)

Gadawyd claf yng ngofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda phroblemau iechyd a symudedd a allai gyfyngu’n sylweddol ar ansawdd ei bywyd am flynyddoedd i ddod ar ôl methiannau yn y derbyniad i’r ysbyty oherwydd amheuaeth o lid y pendics a thriniaeth a gofal dilynol. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.

Roedd yr adroddiad hwn yn Ymchwiliad Estynedig.

Mae Ymchwiliad Estynedig yn digwydd pan rydym eisoes yn ymchwilio i broblem ac rydym yn ymestyn yr ymchwiliad i faterion neu achwynwyr eraill.

Yn ystod y flwyddyn, caeasom ddau ymchwiliad estynedig. Nodasom y pwyntiau dysgu canlynol o’r adroddiad uchod:

202107105

Cwynodd Mr B am y gofal ysbyty a gafodd ei wraig, Mrs B, ar ôl iddi ddatblygu llid y pendics a chael tynnu ei phendics. Nododd y cynghorydd clinigol fethiannau sylweddol mewn gofal ar ôl llawdriniaeth a arweiniodd at Mrs B yn dioddef ataliad y galon y gellid ei osgoi, a bu angen sawl wythnos arni mewn gofal dwys a gafodd effeithiau hirdymor a oedd yn newid ei bywyd.  Nododd y cynghorydd hefyd fod cyfle wedi’i golli 2 flynedd ynghynt i drefnu i dynnu’r pendics mewn ymateb i ganlyniad sgan.  Byddai hyn wedi osgoi’r llid y pendics diweddarach. Gan nad oedd Mr a Mrs B yn gwbl ymwybodol o hyn, gwnaethom ymestyn yr ymchwiliad i fynd i’r afael â’r mater gan ddefnyddio ein pwerau ar ein liwt ein hunain. Cadarnhawyd y gŵyn wreiddiol a’r elfen estynedig a gwnaethom gytuno ar argymhellion gan gynnwys iawndal ariannol sylweddol.  Nodasom yn yr adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd fel adroddiad budd y cyhoedd, pe na baem wedi cychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ni fyddai’r methiant sylweddol ychwanegol hwn a arweiniodd at anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs B wedi dod i’r amlwg.  Pwysleisiom fod hyn yn dangos pam fod angen y pŵer ar ei liwt ei hun, er budd y cyhoedd, ac ar gyfer unigolion a ddaw at yr Ombwdsmon.

 

Atgyfeiriadau cwynion y Cod Ymddygiad

Yn ystod y chwarter diwethaf, cawsom benderfyniadau ar atgyfeiriadau i Bwyllgorau Safonau.

1. Y Cynghorydd Glyn Smith o Gyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri – Honnwyd bod yr Aelod wedi llofnodi dogfennau a arweiniodd at wneud taliadau rhodd gormodol i Gyn Glerc a Chyn Ysgrifennydd y Cyngor, a bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiannau’n ymwneud â’r Cyn Glerc a’r gordaliadau. Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Daeth Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’r casgliad bod y Cynghorydd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi ymddwyn mewn modd a wnaeth ddwyn anfri ar y swyddfa a’r cyngor, ei fod wedi defnyddio ei safle’n amhriodol i greu mantais i rywun arall, ei fod wedi defnyddio adnoddau’r Cyngor yn anghyfreithlon a’i fod wedi methu â datgan buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu ar adegau priodol.

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ceryddu, gydag argymhelliad am hyfforddiant pellach mewn perthynas â’r Cod Ymddygiad i Aelodau, gyda phwyslais arbennig ar ddeall y Cod er mwyn atal toriadau rhag codi yn y dyfodol.

2. Y Cynghorydd Robert Phillips o Gyngor Cymuned Llanhiledd ac Abertyleri – Honnwyd bod yr Aelod wedi llofnodi dogfennau a arweiniodd at wneud taliadau rhodd gormodol i Gyn Glerc a Chyn Ysgrifennydd y Cyngor, a bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiannau’n ymwneud â’r Cyn Glerc a’r gordaliadau. Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Daeth Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’r casgliad, ar sail amgylchiadau penodol y mater hwn, nad oedd y Cynghorydd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi torri’r cod.

 

Ein Cynllun Busnes a Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddom ein Cynllun Strategol 2023-2026: Pennod newydd. I ddarllen y Cynllun, ewch yma.

Mae’r Cynllun Strategol yn ddogfen lefel uchel. Fodd bynnag, dywedasom ar y pryd y byddem yn cynhyrchu Cynllun Busnes blynyddol ar gyfer pob blwyddyn o’r Cynllun Strategol.

Gwnaethom egluro y byddai’r Cynllun Busnes hwnnw hefyd yn cynnwys y Dangosyddion Perfformiad Allweddol y byddem yn eu defnyddio i fonitro ein perfformiad a’n heffaith mewn meysydd y gallwn eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.

Ym mis Medi, cyhoeddom ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Chamau Gweithredu ein Cynllun Busnes ar gyfer 2023/24.

I ddarllen y cyhoeddiad hwn, cliciwch yma. 

 

Adroddiad Adolygiad Digartrefedd: Ailymweld

Tra bod ein Hymchwiliad ar ein Liwt ein Hunain i asesiad o anghenion gofalwyr yn mynd rhagddo, cymerasom amser i gyhoeddi adroddiad dilynol ar ein hymchwiliad blaenorol, a’r cyntaf erioed, o’r natur hwnnw – Adroddiad Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol (2021).

Archwiliodd yr ymchwiliad a oedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i sicrhau bod asesiadau digartrefedd yn cael eu cynnal yn briodol.  Daethom yn ymwybodol bod cyfran fawr o’r asesiadau hyn yn cael eu herio a’u gwrthdroi yn ystod yr adolygiad.

Nododd adroddiad 2021 ar yr ymchwiliad rai materion systematig yn ymwneud â gweinyddu’r asesiadau hyn yn y tri Awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt. Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

O ganlyniad, gwnaethom sawl argymhelliad i’r Awdurdodau hyn. Er dibenion dysgu ehangach, gwahoddom Lywodraeth Cymru a’r 19 o awdurdodau eraill yng Nghymru na ymchwiliwyd iddynt i ystyried effaith y canfyddiadau ar wasanaethau digartrefedd yn lleol ac i gymryd camau i wella gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru.

Mae ein hadroddiad dilynol ar y cynnydd a wnaed yn dangos y canlynol

  • y bu cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 10% yn yr asesiadau digartrefedd sy’n cael eu cwblhau gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • bu cynnydd hefyd yng nghanran yr asesiadau a arweiniodd at adolygiad. Er ei fod yn annisgwyl, gallai’r cynnydd hwn hefyd fod oherwydd mwy o ymwybyddiaeth o’r dewis i herio canlyniadau’r asesiad.
  • yn gadarnhaol, o gymharu â 2017/18, gwelwyd bod cyfran lai o benderfyniadau asesu yn cael eu gwrthdroi ar ôl adolygiad. Gallai hyn fod yn dystiolaeth o brosesau gwneud penderfyniadau gwell a mwy cyson. Fodd bynnag, mae cyfran yr adolygiadau sy’n cael eu gwrthdroi yn parhau i fod yn uchel ac nid yw wedi gwella ers 2021.
  • mae rhai rhesymau pam fod penderfyniadau asesu yn dal i gael eu gwrthdroi ar ôl adolygiad yn parhau i yn newid mewn amgylchiadau, nad oedd yr eiddo a gynigiwyd yn cwrdd ag anghenion neu fod angen mwy o ymchwilio.

Yn gadarnhaol, roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu dangos llawer o welliannau i ni – er enghraifft

  • bod swyddogion digartrefedd ledled Cymru wedi derbyn mwy o hyfforddiant perthnasol
  • y bu mwy o ddefnydd o ddulliau cyfathrebu amgen (gyda rhai awdurdodau lleol yn archwilio ar hyn o bryd y defnydd o alwadau fideo a  sgwrsfotiaid)
  • mae rhai adnoddau cyfathrebu allweddol wedi’u hadolygu i sicrhau eu bod ar gael mewn fformat hygyrch.

Fodd bynnag, mae’n siomedig nad yw pob un o’r 19 o awdurdodau na ymchwiliwyd iddynt wedi ystyried gwelliannau gwasanaethu posibl yng ngoleuni ein hadroddiad ar ei liwt ei hun cyntaf.

I ddarllen y cyhoeddiad hwn, cliciwch yma. 

 

Ein Cynllun Cydraddoldeb newydd

Ym mis Tachwedd, cyhoeddom ein Cynllun Cydraddoldeb newydd. O dan y Cynllun, byddwn yn:

  • Sicrhau ein bod yn cefnogi pobl ag anghenion mynediad ychwanegol i ddefnyddio ein gwasanaeth cwynion.
  • Helpu i wella ein gwasanaethau a’n heffaith trwy ymgysylltu’n well â grwpiau cydraddoldeb.
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r swyddfa a’i rôl a’i phwerau ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein hachwynwyr.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth mwy hygyrch sy’n esbonio pwy ydym ni a sut rydym yn gweithio.
  • Trwy ein rôl Safonau Cwynion, ceisio dylanwadu’n gadarnhaol ar hygyrchedd prosesau cwynion lleol.
  • Gweithio i wella cynrychiolaeth grwpiau targed ledled ein gweithlu.
  • Parhau i fonitro ein Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau a nodi unrhyw gyfleodd i’w leihau ymhellach.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at greu’r Cynllun hwn ac yn edrych ymlaen at ei roi ar waith!

Darllenwch ein Cynllun yma.

 

Coflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Cyhoeddom ein pumed Coflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy’n cynnwys detholiad o achosion a ystyriom yn ymwneud ag ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol.

Roedd rhywfaint o’r achosion hyn yn dal i ymwneud â digwyddiadau a fu yn ystod pandemig Covid-19 ac yn ystod y mesurau a’r cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd.  Gan barhau â’r thema a gyflwynwyd yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r cyhoeddiad yn cynnwys 2 achos sy’n ymwneud â chymhwyso’r weithdrefn ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol.

Yn ogystal, mae nifer o achosion pellach yn ymwneud â gofal iechyd a thai yn amlygu sut y gallai methiannau gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus fod wedi ymgysylltu â dyletswyddau hawliau dynol, neu’r egwyddorion FREDA o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Urddas ac Ymreolaeth – gwerthoedd craidd sy’n sail i hawliau dynol.

Mae’r detholiad yn y coflyfr hefyd yn cynnwys rhai cwynion sy’n ymwneud â dyletswyddau cydraddoldeb – yn bennaf, y ddyletswydd i gynnig addasiadau rhesymol i bobl anabl. Fodd bynnag, mae hefyd un enghraifft o gŵyn yn ymwneud â gwasanaethau i bobl draws.

Darllenwch ein coflyfr yma.

 

Data Safonau Cwynion ar gyfer 2023/24 hyd yma

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddom ystadegau ar gwynion a dderbyniwyd gan Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, a chynghorau lleol yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2023/24.

Cliciwch yma am ddata manwl.

 

Ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu

O dan ein Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb, rydym wedi cynyddu ein hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o bwy ydym ni a sut y gallwn helpu ymhlith cymunedau amrywiol.

Dros y misoedd diwethaf, gwnaethom achub ar gyfleoedd i hyrwyddo gwelliant a chodi ymwybyddiaeth o’n swyddfa yn

  • Cynhadledd ‘Mastering Diversity’, a drefnwyd gan aelod o’n Panel Ymgynghorol, Bernie Davies
  • Ffair Iechyd, a drefnwyd gan Race Equality First
  • Cynhadledd Genedlaethol Gofalwyr Cymru
  • Cynhadledd Genedlaethol Ymgysylltu â Thenantiaid Cymru 2023
  • Digwyddiad codi ymwybyddiaeth ar y cyd gyda Settled, sef elusen sy’n cefnogi dinasyddion yr UE yn y DU

Cyflwynom ein gwaith hefyd yng nghyfarfod Panel Dinasyddion Gwent.

Yn ogystal, rydym wedi bod yn cymryd camau i wella pa mor hygyrch ydym ni:

  • Mae tudalen newydd ar ein gwefan nawr yn amlinellu sut y gallwn helpu pobl i ddefnyddio ein gwasanaeth.
  • Rydym bellach wedi cyhoeddi ar ein gwefan restr o gyrff cynghori ac eirioli a allai gefnogi pobl sydd am gwyno i ni neu sefydliad arall. Mae’n ddogfen fyw – byddwn yn ei diweddaru’n rheolaidd ac yn ychwanegu mwy o sefydliadau dros amser. I weld y rhestr, cliciwch yma.
  • Gwnaethom hefyd gynnig hyfforddiant ar ein proses i Llais, swyddfeydd etholaeth Casnewydd Gwent ac RNIB.
  • Hoffem ddeall beth sy’n atal pobl rhag defnyddio ein gwasanaeth cwynion yn Gymraeg. Felly, rydym wedi lansio arolwg cyhoeddus, yn gofyn i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni dros y 3 blynedd diwethaf ac sydd ag unrhyw lefel o allu yn y Gymraeg am eu profiad o ddefnyddio, neu o ystyried defnyddio, ein gwasanaeth yn Gymraeg. Mae ein Harolwg Iaith Gymraeg ar gael yma.

 

I ymuno â rhestr y wasg i gael newyddion OGCC, e-bostiwch ni yncyfathrebu@ombwdsmon.cymru