Cwynodd Ms C nad oedd ei pherthynas, Ms D, sydd ag anawsterau dysgu, wedi derbyn gofal digonol gan Gyngor Dinas Casnewydd (“Y Cyngor”) o Fedi 2013, a bod hyn wedi’i gadael heb gefnogaeth. Yn benodol, ni asesodd ei gallu i orchwylio ei materion cyllidol na threfnu i apwyntai wneud hynny.
Canfu’r Ombwdsmon na gynhaliodd y Cyngor asesiad galluedd am gyfnod o bron bedair blynedd, er iddynt adnabod ar bum achlysur wahanol fod Ms D yn fregus a ddim yn deall cyfrifiadau cyllid sylfaenol. Gadawodd y Cyngor i Ms D ddelio â’i materion cyllidol ei hun ac mewn perygl o ecsbloetiaeth. Ymhellach i hyn, canfu’r Ombwdsmon na atgyfeiriodd y Cyngor fesurau diogelu nac ymchwilio’r pryderon a godwyd yn ddigon difrifol pan wnaed yn ymwybodol y gallai Ms D fod wedi’i hecsbloetio’n gyllidol. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon bod y gefnogaeth gyffredin a chynigiodd y Cyngor i Ms D yn rhesymol.
Dywedodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fod wedi diogelu Ms D yn gyllidol a’i fod yn anghyfiawnder sylweddol na chafodd. Derbyniodd y Cyngor gasgliadau’r adroddiad hwn a chydnabod eu rôl ym methiannau’r achos.
Cytunodd y Cyngor i gymryd y camau canlynol:
O fewn un mis:
a) Ysgrifennu llythyrau priodol yn ymddiheuro am y methiannau a adnabyddir yn yr adroddiad hwn.
b) Gwneud taliad i Ms D o swm cytunedig am y methiant o beidio asesu’n ddigonol ei hangen am fesurau diogelu cyllidol rhwng Medi 2013 ac Ebrill 2013.
c) Gwneud taliad o £500 i Ms C i gydnabod y gofid a achosodd gan ei
fethiant fel yr amlinellir yn (b) ac o anwybyddu ei chyfatebiaeth.
O fewn tri mis:
ch) Sicrhau bod trefniadau ar waith fel bod ystyriaeth yn cael ei roi i reoli cyllid yn ystod ei adolygiad blynyddol o achosion, a phenderfynu sut y byddant yn adolygu pryderon a dderbyniant mewn perthynas â materion cyllidol a gallu.
d) Trafod cynnwys yr adroddiad hwn gyda’r Tîm Anabledd Dysgu Oedolion Cymunedol i adnabod meysydd dysgu.
dd) Sicrhau bod trefniadau ar waith er mwyn atgoffa staff priodol o’r angen i gymryd nodiadau cywir a dangos y rhesymeg ar gyfer penderfyniadau mewn perthynas â gallu.
O fewn chwe mis:
e) Dangos bod holl Weithwyr Cymdeithasol perthnasol wedi derbyn yn ddiweddar neu am dderbyn hyfforddiant gloywi mewn perthynas â’r Ddeddf Gallu Meddylion a sut i ymgymryd ag a chofnodi asesiadau galluedd.