Roedd Mr Y wedi cwyno bod y Bwrdd Iechyd wedi mynd dros y targed amseroedd aros canser rhwng atgyfeirio-a-thriniaeth ar gyfer canser y prostad ac oherwydd yr oedi cyn rhoi triniaeth iddo, ac effaith bosibl unrhyw oedi, fe ddewisodd fynd am driniaeth breifat.
Roedd “Rheolau ar gyfer Rheoli Amseroedd Aros Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth” (“Rheolau RTT”) Llywodraeth Cymru adeg y digwyddiadau y cwynwyd amdanynt yn nodi: “Cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser sydd wedi cael eu cyfeirio fel llwybr brys lle’r amheuir canser, ac sydd wedi’u cadarnhau fel brys gan yr arbenigwr i ddechrau triniaeth ddiffiniol cyn pen 62 diwrnod o dderbyn yr atgyfeiriad…”
Canfu’r Ombwdsmon y byddai’r Bwrdd Iechyd wedi methu amserlen y Rheolau RTT yn achos Mr Y gan o leiaf 106 diwrnod o ystyried yr amseroedd aros a amcangyfrifwyd adeg diagnosis Mr Y (3 mis). O ystyried y cyngor proffesiynol bod triniaeth radical gynnar yn hanfodol ar gyfer clefydau risg uchel, roedd aros 3 mis am driniaeth ddiffiniol yn annerbyniol beth bynnag fo Rheolau’r RTT. Roedd hyn yn fethiant yn y gwasanaeth.
Yn achos Mr Y, arweiniodd yr oedi cyn cael triniaeth, a’r pryder ynghylch yr effaith bosibl ar ei gyflwr clinigol o ganlyniad i unrhyw oedi, at ei benderfyniad i fynd am driniaeth breifat. Achosodd yr oedi, a oedd yn llawer hwy na’r targed o 62 diwrnod yn achos Mr Y, ofid a phryder sylweddol iddo, ac ni wnaeth ei benderfyniad i fynd am driniaeth breifat yn gynt (yn hytrach na disgwyl i’r Bwrdd Iechyd roi triniaeth iddo) leihau effaith methiant gwasanaeth y Bwrdd Iechyd ar Mr Y ar amser pryderus iawn. Ar yr adeg yr aeth Mr Y am driniaeth breifat, roedd yn poeni y byddai’r canser yn lledaenu pe bai’n aros am driniaeth gan y GIG. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr Y. Cadarnhawyd y gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon y dylai, o fewn 6 wythnos o ddyddiad yr adroddiad terfynol, wneud y canlynol:
a) Rhoi ymddiheuriad gwenieithus ysgrifenedig i Mr Y am y methiant a nodwyd gan yr adroddiad hwn.
b) Talu iawndal o £8,171 i Mr Y i gynrychioli cost ei driniaeth breifat.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhelliad yr Ombwdsmon y dylai, o fewn 4 mis o ddyddiad yr adroddiad terfynol, wneud y canlynol:
c) Cyfeirio’r adroddiad at y Bwrdd a gofyn iddo sefydlu grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu’r gwasanaeth Wroleg i ganfod lle gall wella’r modd y darperir gwasanaethau, yn enwedig mewn perthynas â thargedau triniaeth canser, i sicrhau nad effeithir ar ofal a thriniaeth cleifion (yn enwedig cleifion risg uchel).