21/06/2021
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202100392
Datrys yn gynnar
Cynon Taf Community Housing Group
Cwynodd Miss Y nad oedd Grŵp Tai Cynon Taf (“y Gymdeithas Dai”) gwneud y gwaith yn ei heiddo yr oedd wedi cytuno i’w wneud. Eglurodd ei bod yn dioddef o gyflyrau meddygol a bod y lleithder, yr oerfel a’r llwydni yn yr eiddo wedi achosi i’w hiechyd ddirywio
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi achosi oedi cyn gwneud y gwaith. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Dai i wneud y gwaith roedd wedi cytuno i’w wneud yn unol â’i chytundeb â Miss Y, i’w gwblhau o fewn 10 niwrnod. Byddai hefyd yn cynnig talu swm o £1,500 i Miss Y fel iawndal am eitemau a ddifrodwyd ac am y trallod yr oedd hi a’i theulu wedi’i brofi.