19/07/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202002714
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Gofal Deintyddol Clifton
Ar 16 Medi 2019, aeth Mrs X i’r Practis a chwyno am boen i’w dant a bod aroglau drwg arno. Ar 18 Medi gosodwyd coron borslen ar yr ail gilddant blaen chwith (“yr UL5”). Dywedodd Mrs X fod y “dant anghywir” wedi cael ei drin, dywedodd mai’r ail gilddant blaen chwith (“yr UL4”) ddylai fod wedi cael ei drin. Dywedodd Mrs X nad oedd y Deintydd wedi esbonio’r driniaeth. Dywedodd Mrs X fod yr UL5 wedi syrthio allan ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Cwynodd Mrs X ei bod wedi cael ei gadael â bwlch yn ei dannedd. Erbyn hyn, mae’n siarad â lisb ac nid yw’n gallu gwenu na chael ei llun wedi’i dynnu. Ceisiodd Mrs X ddyfynbrisiau am waith deintyddol preifat i adfer yr UL5 drwy fewnblaniad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gymhariaeth rhwng pelydrau X a gymerwyd ar 1 Ebrill 2020 ac 16 Ebrill a’r rheini a gymerwyd ar 3 Mawrth 2021 wedi cadarnhau nad oedd problem gydag UL4. Canfu fod UL5 wedi cael ei drin yn briodol â choron; ni chafodd y “dant anghywir” ei drin. Canfu’r Ombwdsmon y dylid bod wedi trafod yr ansicrwydd ynghylch triniaeth a phrognosis cyfyngedig UL5 gyda Mrs X. Canfu hefyd y dylid bod wedi cyflwyno opsiynau i Mrs X – tynnu’r dant, ei adfer gyda choron neu lenwad mawr, ond y byddai coron yn well. Canfu nad yw mewnblaniad yn cael ei ddarparu gan y GIG; dim ond dannedd gosod y mae’n eu cynnig. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn ar y sail na roddwyd opsiynau i Mrs X.
Cytunodd y Practis i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon o fewn 1 mis, sef ymddiheuro i Mrs X am y methiannau, sicrhau bod ei ddeintyddion yn cael eu hatgoffa i drafod ac ystyried opsiynau triniaeth, a thalu iawndal o £367 fel cyfraniad rhesymol tuag at ddant gosod ar gyfer UL5 (sy’n adlewyrchu canran ar gyfer triniaeth i’r UL5 drwy ddant gosod yn unig).