26/07/2021
Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty
Datrys yn gynnar
202101183
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Mr X am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”), nad oedd wedi darparu ymateb priodol i’w bryderon ac roedd yn teimlo nad oedd neb wedi gwrando arno.
Canfu’r Ombwdsmon fod pryderon Mr X am ei ofal a’i driniaeth wedi pasio’r terfyn amser i raddau helaeth. Fodd bynnag, o ran â delio â chwynion, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi oedi am fwy na 12 mis cyn trefnu cyfarfod y cytunwyd arno i drafod pryderon Mr X. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu unrhyw ddiweddariadau i Mr X ac roedd y wybodaeth am delerau’r cyfarfod yn anghyson. Roedd oedi a diffyg diweddariadau hefyd o ran cwblhau adolygiad llenyddiaeth y cytunwyd arno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’r gŵyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth ddiangen i Mr X.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X, talu iawndal o £250 iddo, darparu canlyniad yr adolygiad llenyddiaeth a threfnu’r cyfarfod y cytunwyd arno o fewn 1 mis.