21/09/2021
Eraill
Datrys yn gynnar
202102464
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir y Fflint
Cwynodd Mrs A ar ran ei hun ac ar ran ei gŵr, Mr A, am Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”). Dywedodd fod y Cyngor wedi gwrthod gadael iddi fynychu cyfarfodydd Amddiffyn Plant gyda Mr A, fel ei eiriolwr. O ganlyniad, nid oedd Mr A wedi cael gwybod am faterion parhaus na gweld ei blant ers amser hir. Dywedodd Mrs A, fel eu llysfam, nad oedd wedi gweld y plant am amser hir, a’i bod hi’n anfodlon ag ymateb cychwynnol y Cyngor i’w chwynion.
Ystyriodd yr Ombwdsmon ei rôl ac roedd o’r farn bod modd datrys y mater heb cynnal ymchwiliad, gan fod cam statudol ychwanegol i gŵyn ynghylch materion gwasanaethau cymdeithasol (ymchwiliad Cam 2 annibynnol). Felly, gwahoddodd y Cyngor i ddatrys y mater drwy weithredu’r camau canlynol (a cytunodd i wneud hynny):
• Gwneud trefniadau (o fewn mis) i ddechrau ar Ymchwiliad Cam 2 i gŵyn Mrs A. ·
• Darparu ymateb cwyn Cam 2 i Mrs A o fewn 14 diwrnod o’i chwblhau.