14/10/2021
Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu
Datrys yn gynnar
202104595
Datrys yn gynnar
Cyngor Caerdydd
Cwynodd Mr X nad oedd ei wastraff wedi cael ei gasglu droeon dros y naw mis diwethaf.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig i Mr X (o fewn tair wythnos) yn cynnwys: (1) ymddiheuriad am yr anhwylustod a achoswyd i Mr X, (2) yn sicrhau y bydd y mater yn cael ei gofnodi gyda rheolwr y tîm casglu fel bod staff yn ymwybodol o Mr X a bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i gasglu ei wastraff yn y dyfodol, a (3) cytundeb i’r rheolwr casglu archwilio / monitro casgliadau Mr X am y tri mis nesaf.
Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.