30/11/2021
Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202003764
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Cyngor Gwynedd
Cwynodd Ms A am ddulliau’r Cyngor o reoli ei chais am dŷ a’i benderfyniad i gynnig 2 eiddo iddi a oedd yn anaddas er bod y Cyngor yn ymwybodol o afiechyd ei phartner. Cwynodd Ms A hefyd am natur wahaniaethol Polisi Dyraniadau newydd y Cyngor lle mae cysylltiad lleol yn seiliedig ar berthynas rhiant, brawd neu chwaer neu blentyn ac nid mathau eraill o unedau teuluol. Dywedodd fod hyn wedi arwain at ei gosod mewn band tai is nag y dylai fod am gyfnod. Cyfeiriodd Ms A hefyd at fethiannau cyfathrebu a methiannau eraill gan staff Tai y Cyngor, a oedd, meddai, wedi achosi iddi golli allan ar fod ar y rhestr fer am dai.
Canfu archwiliad yr Ombwdsmon nifer o fethiannau gweinyddol ar ran y Cyngor sy’n golygu nad oedd wedi gweithredu yn unol â’i ddyletswyddau statudol neu roi ystyriaeth ddyledus i agweddau perthnasol o’r Cod Canllawiau cenedlaethol (“y Cod”) sy’n llywodraethu dyraniadau tai. Canfu’r Ombwdsmon hefyd dystiolaeth o fethiannau cyfathrebu gan y Cyngor. Cadarnhaodd yr agweddau hyn o gŵyn Ms A.
Ni chanfu’r Ombwdsmon bod Polisi Dyraniadau’r Cyngor yn “wahaniaethol” ac ar sail y dystiolaeth a ystyriwyd, daeth i’r casgliad nad oedd Ms A wedi colli allan ar unrhyw ddyraniadau yn sgil cyflwyno’r polisi newydd. Roedd hefyd yn fodlon bod y Cyngor wedi rhoi mesurau ar waith i atal cynigion pellach o dai anaddas. Ni chadarnhawyd y rhannau hyn o gŵyn Ms A.
Roedd argymhellion yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar y canlynol. Dylai Prif Weithredwr y Cyngor ymddiheuro i Ms A a’i phartner am y methiannau a nodwyd a dylid atgoffa’r staff Tai o bwysigrwydd gwneud ymholiadau i fodloni eu hunain bod ceisiadau ymgeiswyr am dai yn gywir. I gloi, argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor yn adolygu ei ddulliau gweithredu a’i weithdrefnau i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol ac yn rhoi ystyriaeth i’r Cod.