11/11/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202103344
Datrys yn gynnar
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mrs A am y gofal a roddwyd i’w diweddar dad yn Ysbyty Tywysoges Cymru ddiwedd 2020. Cwynodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) ynglŷn â’r gofal hwnnw a chafodd ymateb ysgrifenedig ym mis Ebrill 2021. Roedd Mrs A wedi bwriadu cwrdd â staff y Bwrdd Iechyd i drafod ei phryderon ond penderfynodd gwyno i’r swyddfa hon oherwydd yr oedi a brofodd wrth drefnu cyfarfod o’r fath.
Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd fod cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwedd Tachwedd 2021. Penderfynodd yr Ombwdsmon y byddai’r cyfarfod yn datrys y gŵyn i’r swyddfa hon am y tro.