30/11/2021
Ymdriniaeth â chais cynllunio (methiant i hysbysu'r rhai a effeithir)
Datrys yn gynnar
202104828
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir y Fflint
Cwynodd Ms X am ddefnydd y contractiwr o drac un lôn lle roedd gwaith/datblygiad yn mynd rhagddo ar ran y Cyngor.
Tra’n ystyried y gŵyn hon, nododd yr Ombwdsmon fod Ms X wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Cyngor ar 10 Awst 2021 ond heb dderbyn ymateb Cam 1. Felly cytunodd y Cyngor i uwchgyfeirio’r gŵyn i Gam 2 a chyhoeddi ymateb Cam 2 llawn i’r gŵyn erbyn 23 Rhagfyr ar yr hwyraf.