17/12/2021
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Setliadau gwirfoddol
202101846
Setliadau gwirfoddol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr B, yn ystod ei arhosiad yn Ysbyty Prifysgol Cymru rhwng 19 Gorffennaf a 13 Awst 2020. Dechreuodd yr Ombwdsmon ymchwilio ond cafodd wybod gan y Bwrdd Iechyd fod y cofnodion meddygol a nyrsio ar gyfer y gofal dan sylw wedi mynd ar goll ac er chwilio’n ddyfal amdanynt, na ellid dod o hyd iddynt.
Barnodd yr Ombwdsmon fod colli cofnodion Mr B yn fethiant gwasanaeth difrifol oedd yn atal unrhyw bosibilrwydd y gallai gynnal ymchwiliad i gŵyn Ms A. Barnodd yr Ombwdsmon fod hyn yn anghyfiawnder iddi hi a’i theulu a phenderfynodd y byddai’n briodol peidio â pharhau â chŵyn Mr A drwy gytuno ar setliad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn mis:
•yn ymddiheuro’n ddiffuant wrth Ms A am golli’r cofnodion;
•yn talu iawndal o £1,000 i Ms A i gydnabod yr anghyfiawnder a achoswyd iddi;
•yn rhoi cyfrif ysgrifenedig i’r Ombwdsmon o golli’r cofnodion, yr ymdrechion a wnaed i ddod o hyd iddynt ac unrhyw fesurau y mae’n ystyried eu gweithredu a / neu eu cyflwyno i leihau a, gobeithio, atal colli cofnodion yn y dyfodol.
Teimlai’r Ombwdsmon fod camau’r Bwrdd Iechyd, yn yr amgylchiadau, yn rhesymol. Barnodd felly fod cwyn Ms A ynghylch colli’r cofnodion wedi cael ei setlo.