20/01/2022
Maethu. Plant sy'n Derbyn Gofal. A Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig
Datrys yn gynnar
202106259
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cwynodd Mrs X am reolaeth y Cyngor o’r trefniadau gofal a’r diffyg darpariaeth ar gyfer ei hwyres a fu yn ei gofal.
Wrth ystyried y gŵyn, nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â delio â phryderon Mrs X (wedi’u nodi mewn llythyr at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) yn unol â’r broses gwyno gywir a’i fod wedi ymateb iddynt fel cwyn gorfforaethol. Yn unol â hynny, cysylltodd â’r Cyngor i ofyn iddo gymryd y camau canlynol:
O fewn un mis:
(a) Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs X am beidio ag mynd i’r afael â’i chwynion o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 (“y Rheoliadau) yn y lle cyntaf, ac am fethu â rhoi gwybod iddi am ei hawliau statudol i ganlyn ei phryderon i’r Ymchwiliad Annibynnol Cam 2 o dan y Rheoliadau.
(b) Cynnig iawndal o £125 i Mrs X am ei hamser a’i thrafferth i fynd ar drywydd ei phryderon gyda’r Cyngor, a’i swyddfa, ac am yr oedi yn sgil hynny o ran mynd ar drywydd ei phryderon o dan y Rheoliadau.
(c) Penodi Ymchwiliad Annibynnol i ganlyn ei phryderon o dan Gam 2 y Rheoliadau.
(d) Darparu copi o’r adroddiad ymchwiliad Cam 2 i’w swyddfa o fewn mis i’w gwblhau.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.