19/01/2022
Ymdrin â chwynion
Datrys yn gynnar
202106487
Datrys yn gynnar
Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cwynodd Mrs A, er gwaetha’r ffaith iddi anfon tri llythyr atgoffa, roedd y Practis wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, a wnaed ym mis Medi 2020.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs A wedi derbyn ymateb i’w chŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis roi ymddiheuriad, ymateb i’r gŵyn a rhoi rhif ffôn uniongyrchol Rheolwr y Practis, erbyn diwedd yr wythnos, er mwyn osgoi unrhyw drafferthion cyfathrebu yn y dyfodol.