Dengys y data fod Awdurdodau Lleol yn Nghymru wedi derbyn bron 12,000 o gwynion yn ystod tri chwarter cyntaf 2021/22; mae hyn yn gyfystyr â 5.1 o gwynion am bob 1,000 o drigolion Cymru. Mae OGCC yn defnyddio’r math hwn o gynrychiolaeth i gymharu gwasanaethau cyhoeddus mewn Awdurdodau Lleol sy’n amrywio’n fawr o ran maint yn well. Gostyngodd nifer y cwynion yn y trydydd chwarter, gan ddangos gostyngiad o 22% o gymharu â chwarter dau.
Dengys y data fod bron i 73% o’r cwynion a gaewyd yn nhrydydd chwarter y flwyddyn wedi’u gwneud o fewn y targed o 20 diwrnod gwaith. Mae’r perfformiad hwn yn is o gymharu â dau chwarter blaenorol y flwyddyn ac yn debyg o gynrychioli’r anawsterau a brofwyd gan bob corff cyhoeddus dros gyfnod y gaeaf.
Cadarnhaodd Awdurdodau Lleol yng Nghymru tua 40% o’r cwynion a gaewyd ganddynt yn chwarter tri. Mae’r ffigwr hwn wedi aros yn uchel yn gyson drwy gydol y flwyddyn – gyda chwynion am wastraff a sbwriel yn denu cyfradd cadarnhau o 73%.
Atgyfeiriwyd ychydig dros 300 o gwynion yn ymwneud ag Awdurdodau Lleol at OGCC yn nhrydydd chwarter y flwyddyn, sy’n cynrychioli tua 9% o’r holl gwynion a gaewyd yn yr un cyfnod.
Mae’r nifer o gwynion sydd wedi eu hatgyfeirio yn rhoi cyd-destun i ddata ar gwynion Awdurdod Lleol ac achosion am Awdurdodau Lleol mae OGCC yn ymdrin â nhw.
Caeodd OGCC 298 o achosion yn ymwneud ag Awdurdodau Lleol yn chwarter tri’r flwyddyn. Daeth rhai o’r cwynion hyn i’r swyddfa yn ystod y chwarter; derbyniwyd eraill cyn y cyfnod hwnnw.
Ymyrrodd OGCC mewn 14% o’r achosion hyn, gan argymell Datrysiad Cynnar neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Gan nad oedd gweddill o’r achosion o fewn awdurdod, ymyrrodd OGCC mewn 100% o’r achosion a oedd modd eu hystyried. Mae hyn yn gyson â chwarter blaenorol y flwyddyn ac yn awgrymu bod angen ar wella pellach yn y gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r cyhoeddiad data diweddaraf hwn yn dangos bod nifer y cwynion bellach yn uwch nag oedd cyn y pandemig a, gyda 9% o gwynion yn cael eu cyfeirio at ein swyddfa, mae’n dangos bod llwythi achosion yn uchel ym mhobman. Rydym wedi ymrwymo i sbarduno gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy ymdrin â chwynion yn well – ac rydym bellach wedi darparu mwy na 200 o sesiynau hyfforddi i gyrff cyhoeddus yng Nghymru drwy ein Hawdurdod Safonau Cwynion. Y gobaith yw y bydd hyn yn golygu bod mwy o achwynwyr yn cael ymateb boddhaol i’w cwynion yn gynnar yn y broses.”
“Rydym yn falch o gyhoeddi eto gwybodaeth am y cwynion y mae Awdurdodau Lleol wedi ymdrin â nhw, a byddwn yn edrych ymlaen at weld sut olwg sydd ar ddata’r flwyddyn lawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ddod â rhannau eraill o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru, megis Byrddau Iechyd a Chymdeithasau Tai, i’n cyhoeddiad data yn y dyfodol agos”.
I weld yr ystadegau chwarterol llawn, ewch yma.
I weld papur briffio sy’n dadansoddi’r ystadegau chwarter 3, ewch yma.
*Mae’r ffordd yr ydym yn cyflwyno gwybodaeth am gyfraddau ymyrraeth ac achosion a gaewyd gan OGCC wedi’i diwygio ers ein cyhoeddiad cychwynnol er mwyn alinio’n agosach â’n hadroddiadau yn ein Hadroddiad Blynyddol a’n Llythyrau Blynyddol. Diweddarwyd y data sydd ar gael i’w lawrlwytho yn unol â hynny.
**Mewn rhai achosion gallem fod o’r farn bod camau y gallai’r sefydliad y cwynir amdano eu cymryd i ddatrys cwyn yn gyflym. Yn yr achosion hyn byddwn yn cysylltu â’r sefydliad dan sylw i esbonio beth y gellid ei wneud yn ein barn ni ac yn ceisio cytundeb i symud ymlaen â hynny.