31/03/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Ni Chadarnhawyd
202004649
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn heb ei chadarnhau
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms A ar ran ei merch, B, am briodoldeb asesiadau iechyd meddwl a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol i Blant a Phobl Ifanc (“CAMHS”) pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Brenhinol Gwent (“yr Ysbyty”) ym mis Mai 2020 ar ôl iddi lyncu batris botwm. Ymatebodd B yn wael i gael gwybod ei bod yn mynd i gael ei rhyddhau’n ôl i’w lleoliad preswyl, ac mewn digwyddiadau ar wahân, rhedodd o’r Ysbyty o flaen traffig ac yna neidio oddi ar wal 20 troedfedd, ac fe gafodd ei hanafu. Dywedodd Ms A y dylid bod wedi gwneud mwy i gadw B yn ddiogel pan dderbyniwyd hi i’r ysbyty a holodd pa mor briodol oedd cynlluniau parhaus i ddychwelyd B i’r lleoliad o ganlyniad i’r dirywiad yn ei hymddygiad.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr asesiadau o B wedi cael eu cynnal i safon briodol. Roedd y penderfyniadau a wnaed yn seiliedig ar dystiolaeth ar yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd ac roedd yn dod o fewn yr amrediad o ymarfer clinigol derbyniol yn yr amgylchiadau dan sylw. Rhoddwyd mesurau lliniaru priodol ar waith yng ngoleuni ymddygiad B o ran cymryd risgiau yn yr Ysbyty ac roeddent hefyd yn bwriadu dychwelyd B i’r lleoliad. Yn anffodus, ni allai ymateb eithafol B i’r penderfyniad y dylai ddychwelyd i’r lleoliad preswyl fod wedi ei ragweld gan y Tîm Meddygol a oedd yn goruchwylio ei gofal iechyd meddwl tra’r oedd yn yr Ysbyty. Yn unol â hynny, newidiodd y cynllun ar gyfer B o ystyried y dirywiad yn ei hymddygiad a gweithredwyd cynllun amgen ar gyfer gofal i gleifion mewnol. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth o fethiant arwyddocaol yn y gwasanaeth, ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.