09/03/2022
Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)
Datrys yn gynnar
202106659
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cwynodd Mrs X fod llifogydd wedi achosi difrod i eiddo ei mam yn ôl ym mis Mai 2021, a bod oedi wedi bod cyn i’r Cyngor drwsio’r eiddo.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mrs X wedi cael ymateb cam 2 i’w chŵyn eto ac wedi cysylltu â’r Cyngor. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i roi ymateb ffurfiol cam 2 i Mrs X erbyn 31 Mawrth 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mrs X.