30/03/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Datrys yn gynnar
202107102
Datrys yn gynnar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ar ôl derbyn ymateb ffurfiol y Bwrdd Iechyd i gwynion, roedd gan Mr A gwestiynau pellach am safon y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar fam. Cwynodd fod yr ymateb terfynol i’r gŵyn wedi ei gyfeirio ato dan enw gwahanol mewn camgymeriad.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod gan Mr A bryderon parhaus a newydd am ofal ei ddiweddar fam, a bod y camgymeriad yn awgrymu diffyg sylw i fanylion wrth ymateb i’r gŵyn.
Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i’r cwestiynau pellach a newydd o fewn mis, ac o fewn yr un amser ymddiheuro am y camgymeriad ac esbonio sut y digwyddodd hyn.