Dewis eich iaith
Cau

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd : Practis deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202108706

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Practis deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

Cwynodd Miss X ei bod wedi’i gadael â cholled ariannol oherwydd y driniaeth a gafodd yn y practis Deintyddol, ac er iddi gyflwyno cwyn ffurfiol, nad oedd eto wedi cael ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Miss X eto wedi cael ymateb i’w phryderon a chysylltodd â’r Practis Deintyddol. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Practis Deintyddol i ddarparu i Miss X ymateb ffurfiol i’w chwyn erbyn 31 Mai 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn bodloni cwyn Miss X.

Yn ôl