20/05/2022
Iechyd
Datrys yn gynnar
202108721
Datrys yn gynnar
Practis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cwynodd Ms A fod Meddygfa wedi methu â chyfeirio’n gywir at ei mab trawsrywiol ar ei fwrdd galw, gan ddatgelu ei hunaniaeth i gleifion eraill. Dywedodd Ms A hefyd fod y Feddygfa wedi dweud wrth ei mab fod arno angen rhif GIG newydd i newid ei ryw ar y system, ac roedd yn bryderus sut byddai hyn yn effeithio ar iddo gael ei alw am driniaethau sgrinio arferol i ‘fenywod’. Roedd Ms A yn anhapus â threfniadau’r Feddygfa ar gyfer delio â’i chwynion. Dywedodd hefyd nad oedd yn ymateb i’w negeseuon e-bost ac y bu’n rhaid iddi gysylltu â’r Bwrdd Iechyd lleol. Bu’r cyfarfod datrys yn aflwyddiannus a chafodd teulu Ms A ei dynnu oddi ar restr gleifion y Feddygfa, heb eglurhad na rhybudd.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi camdrafod y ffordd yr oedd yn cyfeirio at fab Ms A, a chwynion dilynol y teulu. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa, i ymddiheuro i Ms A am y ffordd y deliodd â’r gŵyn, a darparu ymateb i’r gŵyn a rhesymeg am y penderfyniad i dynnu’r teulu oddi ar ei rhestr gleifion. Cytunodd hefyd i adolygu ei system bresennol ar gyfer delio â negeseuon e-bost cleifion mewn un mis.