Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio’r ffordd yr ydym (Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn gwneud cais am wybodaeth i ni, neu pan fyddwch yn arfer eich hawliau gwybodaeth. Er enghraifft, os ydych am wrthwynebu’r ffordd yr ydym wedi ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych:
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ystyried cwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er enghraifft, gallwch gwyno eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael trwy ryw fethiant ar ran y corff sy’n darparu’r gwasanaeth. Gallwn ystyried cwynion am y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Gallwn hefyd edrych ar gwynion bod cynghorwyr (gan gynnwys cynghorwyr cymuned) wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod lleol.
Mae angen i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaeth gyfreithiol fel corff cyhoeddus o dan y ddeddfwriaeth cais am wybodaeth. Er enghraifft, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a’r Ddeddf Diogelu Data 2018.
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rydym yn creu cofnod electronig ar ein cronfa ddata i’n helpu i reoli ac ymateb i’ch cais neu ymholiad. Rydym yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch:
Byddwn yn rhannu eich cais a’n hymateb dim ond pan fydd y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny. Er enghraifft, os ydych yn cwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd yr ydym wedi delio â’ch cais.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth dim ond cyhyd ag y bydd ei hangen arnom a bydd hynny’n dibynnu ar ba ddefnydd a wneir ohoni.
Mae gennych yr hawliau canlynol dros y wybodaeth sydd gennym amdanoch:
Gallwch gysylltu â ni i arfer eich hawliau neu i gwyno am sut y defnyddir eich gwybodaeth trwy e-bostio Cais.Gwybodaeth@ombwdsmon.cymru
Os ydych yn anhapus â’r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth, mae hawl gennych gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).