COD - Datgelu a Chofrestru Buddiannau
COD
202100010
COD - Nid oes angen gweithredu
Cyngor Cymuned Pengelli a Waungron
Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Pengelli a Waungron (“y Cyngor Cymuned”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a rhagfarnus wrth ystyried cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai gerllaw ei eiddo. Honnwyd hefyd, pan ddechreuodd y gwaith ar y datblygiad tai, fod yr Aelod wedi rhwystro lorïau rhag mynd i mewn i’r safle ac wedi bygwth y contractwr datblygu â llythyr cyfreithiwr, yn dweud ei bod yn gweithredu ar ran y Cyngor Cymuned.
Ystyriodd yr ymchwiliad y paragraffau canlynol o’r Cod Ymddygiad:
6(1)(a) – Ni ddylai Aelodau ymddwyn mewn modd fyddai’n peri i bobl gredu’n rhesymol eu bod yn dwyn anfri ar eu swydd neu awdurdod.
7(a) – Rhaid i aelodau, yn rhinwedd eu swyddogaeth swyddogol neu fel arall, beidio â defnyddio na cheisio defnyddio eu swydd yn amhriodol er mantais neu anfantais iddynt hwy eu hunain nac i unrhyw berson arall.
11 – Rhaid i aelodau ddatgelu bodolaeth a natur buddiant personol cyn cymryd rhan mewn unrhyw fusnes o’u hawdurdod y mae’n ymwneud ag ef.
14 – Rhaid i aelodau, oni bai eu bod wedi cael gollyngiad gan bwyllgor safonau eu hawdurdod, ymneilltuo o gyfarfod sy’n ystyried unrhyw fusnes yr awdurdod y mae ganddynt fuddiant sy’n rhagfarnu ynddo a pheidio â cheisio dylanwadu ar benderfyniad ynghylch y busnes hwnnw.
Yn ystod yr ymchwiliad, ystyriwyd gwybodaeth gan y Cyngor Cymuned a’r contractwr datblygu a chyfwelwyd tystion.
Canfu’r ymchwiliad, pan ddaeth y cais cynllunio gerbron y Cyngor Cymuned fel rhan o broses ymgynghori, y cynghorwyd yr Aelod yn anghywir nad oedd angen iddi ddatgan buddiant. Canfu’r Ombwdsmon, gan fod yr Aelod yn byw gerllaw’r datblygiad tai ac yn rhedeg busnes o’i heiddo, ei bod yn debygol bod ganddi fuddiant personol a rhagfarnol yn y cais cynllunio, ac, felly, efallai ei bod wedi torri paragraffau 11 a 14. o’r Cod Ymddygiad.
Canfu’r ymchwiliad, er y gallai’r Aelod fod wedi dylanwadu ar aelodau eraill yn y cyfarfod, cyflwynodd y Cyngor Cymuned cyfan ei wrthwynebiadau i’r cais cynllunio. Fodd bynnag, cytunwyd ar y cais cynllunio yn y pen draw gan y Cyngor Sir, ac aeth y datblygiad yn ei flaen. Felly, nid oedd cyfranogiad yr Aelod a’r gwrthwynebiad i’r cais cynllunio gan y Cyngor Cymuned yn achosi anfantais i’r ymgeisydd. Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn nad oedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cefnogi’r honiad bod yr Aelod wedi rhwystro lorïau ac wedi bygwth y contractwr â llythyr cyfreithiwr nac wedi awgrymu bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol neu wedi dod â’i swydd fel aelod neu’r Gymuned. Cyngor i anfri drwy dorri paragraffau 6(1)(a) neu 7(a) o’r Cod Ymddygiad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y cyngor anghywir yn darparu rhywfaint o liniariad ar gyfer gweithredoedd yr Aelod a, chan nad oedd yr ymddygiad yn effeithio ar ganlyniad y cais cynllunio, roedd yn annhebygol y byddai sancsiwn yn cael ei roi, ac nid oedd er budd y cyhoedd i fynd â’r mater ymlaen. . Canfu’r Ombwdsmon felly, o dan Adran 69(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.