10/06/2022
Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b
Setliadau gwirfoddol
202106610
Setliadau gwirfoddol
Cyngor Sir y Fflint
Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau priodol ac amserol mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â hysbysiad yr oedd y Cyngor wedi’i gyflwyno i’w gymydog i wella cyflwr ei dir. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w negeseuon ebost gydag unrhyw wybodaeth benodol neu ddiweddariad sylweddol ar yr achos.
Ar ôl i ymchwiliad gan yr Ombwdsmon ddechrau, cynigiodd y Cyngor gymryd y camau canlynol i symud y mater yn ei flaen. Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at y cymydog i atgyfnerthu’r angen iddo gydymffurfio â’r hysbysiad o fewn 3 mis. Yn y cyswllt hwn, roedd y Cyngor o’r farn ei bod yn briodol rhoi cyfle olaf i’r cymydog gydymffurfio â’r hysbysiad a byddai’r llythyr yn ei gwneud yn glir bod y Cyngor yn cadw’r hawl i gymryd camau gorfodi mwy ffurfiol, gan gynnwys camau gweithredu uniongyrchol a/neu gychwyn ymchwiliad troseddol, os nad oedd yn cydymffurfio o fewn yr amserlen a bennwyd. Cytunodd y Cyngor hefyd i ysgrifennu at Mr X i ymddiheuro am yr oedi wrth gyfathrebu ag ef yn brydlon ac i roi sicrwydd iddo fod y Cyngor yn parhau i ymgysylltu â’r cymydog er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r hysbysiad. Cytunodd hefyd i gynnig taliad o £100 i Mr X i gydnabod yr amser a’r drafferth wrth fynd ar drywydd ei gŵyn gyda’r Ombwdsmon. Cytunodd y Cyngor i gyflawni’r holl gamau hyn o fewn 1 mis. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu tystiolaeth i’r Ombwdsmon ei fod wedi cynnal adolygiad o’r achos a’r sefyllfa ar ôl i’r 3 mis a roddwyd i’r cymydog fynd heibio.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau hyn yn rhesymol ac felly rhoddwyd y gorau i’r ymchwiliad ar y sail bod y gŵyn wedi’i setlo.