14/06/2022
Budd-daliadau Eraill
Datrys yn gynnar
202201497
Datrys yn gynnar
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w chŵyn er gwaethaf y ffaith fod yr Ombwdsmon wedi cyfeirio ato i wneud hynny.
Wrth wneud ymholiadau gyda’r Cyngor, cafodd yr Ombwdsmon wybod bod neges ebost yn cyfeirio’r mater wedi ymddangos ym mlwch derbyn ebost sothach y swyddog cwynion ac nad oedd yn ymwybodol o’r neges. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi derbyn ymateb i’w chŵyn a bod hyn wedi creu anghyfleustra iddi, ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor gytuno i’r canlynol er mwyn setlo’r gŵyn.
Erbyn 4 Gorffennaf 2022
a) Darparu ymddiheuriad ac esboniad i Ms X am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn
b) Darparu ymateb cam dau i Ms X
c) Dylai’r Cyngor sicrhau nad yw negeseuon ebost Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn cael eu hidlo mwyach, a bod ffolderi sothach yn cael eu harchwilio’n ddyddiol