Rydym yn ceisio eich barn ar ein Cynllun Strategol drafft, i lunio blaenoriaethau ein swyddfa ar gyfer 2023-2026.
Dyddiad Cau’r Ymgynghoriad: 22 Tachwedd 2022
Diben yr ymgynghoriad
Roedd ein Cynllun Corfforaethol blaenorol yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 2019 a 2022. Rydym nawr yn datblygu set newydd o nodau strategol i gyflawni ein huchelgais ar gyfer y swyddfa:
- Mae pobl Cymru yn teimlo bod gwasanaethau cyhoeddus yn eu trin yn deg ac yn ymateb pan aiff pethau o chwith.
- Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gwrando ar unigolion ac yn defnyddio eu cwynion i ddysgu a gwella.
- Mae ymddiriedaeth yn llywodraeth leol Cymru i gyflawni’r safonau uchaf o ymddygiad.
- Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn parhau i fod yn llais dylanwadol ac uchel ei barch o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.
I gyflawni’r uchelgais hwn, gwyddom fod angen inni drafod yr heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’n swyddfa, yn y Gymru ôl-bandemig newydd. Bydd angen inni archwilio ffyrdd newydd o weithio a gwneud mwy i ddangos sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth.
Ein Nodau Strategol arfaethedig yw:
- Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
- Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
- Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
- Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol
Rydym yn gorff sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus ac rydym yn atebol am sut yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau i Senedd Cymru. Mae ein Cynllun Strategol arfaethedig yn uchelgeisiol, ond yn realistig ynghylch yr adnoddau a’r capasiti sydd ar gael inni. Rydym yn deall y bydd cwmpas y Cynllun terfynol yn dibynnu ar yr adnoddau a ymddiriedwyd inni gan y Senedd.
Ein Cynllun Strategol drafft:
Gallwch weld ein Cynllun drafft yma:
Cwestiynau’r Ymgynghoriad
- A yw ein huchelgais fel y nodir yn y Cynllun yn glir ac yn briodol?
- A yw ein Nodau Strategol datganedig yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r heriau sy’n ein hwynebu? Os nad ydynt, pa newidiadau fyddech yn eu hawgrymu?
- Byddwn yn datblygu cynlluniau gweithredu blynyddol manylach, ond rydym wedi cynnwys camau gweithredu lefel uchel arfaethedig yn ein Cynllun Strategol. Dywedwch wrthym am eich barn ar ein camau gweithredu arfaethedig o dan pob Nod Strategol.
- A ydych yn cytuno â’n hymagwedd ddatganedig o ran sut y byddwn yn dangos dylanwad ac effaith ein gwaith? A allwch awgrymu unrhyw ffyrdd eraill o fesur sut yr ydym yn gwneud gwahaniaeth?
- Byddwn yn parhau i weithio yn unol â Safonau’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Pa effeithiau y gallai’r Cynllun ei gael ar y Gymraeg ac yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac wrth beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? Sut y gellid hybu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol?
- A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ein Cynllun Strategol drafft?
Sut i ymateb
Rhannwch eich barn gyda ni erbyn hanner nos 22 Tachwedd 2022 trwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:
- Llenwch ein ffurflen ar-lein
- E-bostiwch eich ymateb i cyfathrebu@ombwdsmon.cymru
- Postiwch eich ymateb i: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ
- Ffoniwch ni ar 0300 790 0203 a gofynnwch i gael siarad ag aelod o’r Tîm Cyfathrebu.
- Ymunwch â chyfarfod agored ar-lein: ewch yma i gofrestru.
Os oes arnoch angen y ddogfen mewn fformat arall, cysylltwch â ni.
Hysbysiad Preifatrwydd
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- Yr hawl i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch a’r hawl i’w gyrchu
- Yr hawl i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i ‘ddileu’ eich data
- Yr hawl (mewn amgylchiadau penodol) i hygludedd data
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Efallai y bydd ymatebion i ymgynghoriadau yn cael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai’n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym.
Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am ragor o fanylion am y wybodaeth y mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymgynghoriadau.