Ar gychwyn Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant, mae’n bleser gennym gyflwyno’r Adroddiad hwn ar ein gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod 2021/22.
Mae’r Adroddiad yn tynnu sylw at lawer o uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft,
- mynychodd 14 corff cynghori ac eiriolaeth ein sesiwn Seinfwrdd blynyddol er mwyn rhoi adborth manwl i ni ar ein hygyrchedd
- rydym wedi parhau i adeiladu ar ein gallu i nodi materion cydraddoldeb a hawliau dynol yn well yn ein gwaith achos
- gwnaethom sicrhau ein bod yn ystyried materion cydraddoldeb a hawliau dynol wrth gynllunio a chynnal ein hymchwiliad cyntaf ar ein liwt ein hunain
- cawsom Statws Cyflogwr Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth
- cwblhaodd 71% o’n staff hyfforddiant ymwybyddiaeth hiliaeth
- enillom wobr lefel arian Cyflogwr ChwaraeTeg am gydraddoldeb rhywedd – am y drydedd flwyddyn yn olynol
- gostyngodd ein canolrif bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 21% ym mis Mawrth 2019 i 3% ym mis Mawrth 2022
- cytunodd 86% o’n staff a ymatebodd i’n harolwg staff eleni ein bod wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cyfartal a chynhwysol.
Mae’r Adroddiad hefyd yn adnabod rhai meysydd y mae rhaid i ni weithio arnynt ymhellach. Mae hyn yn cynnwys hygyrchedd ac ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth yn ogystal ag amrywiaeth ein staff. Byddwn yn edrych ar sut i fynd i’r afael ar y meysydd hyn ac eraill o dan ein Cynllun Strategol newydd (sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd), a hefyd ein Cynllun Cydraddoldeb newydd (y bwriadwn ei ddatblygu erbyn diwedd y flwyddyn adrodd hon).
Mae Atodiadau i’r Adroddiad yn cynnwys data manwl ar broffil cydraddoldeb ein hachwynwyr, ein staff a’n hymgeiswyr swyddi.
Mae ein Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2021/22 i’w weld yma.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr Adroddiad hwn, neu os hoffech drafod yr Adroddiad yn fanylach, cysylltwch â
Ania Rolewska (Pennaeth Polisi, Cyfathrebu ac EDI)
ar ania.rolewska@ombwdsmon.cymru neu 07960 921 959.
26/09/2022
Cydraddoldeb |
Cyhoeddiadau corfforaethol |
Datganiad i'r wasg |