Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
Wrth i arweinwyr gwleidyddol a Phwyllgorau Safonau ledled Cymru fwrw ymlaen â’u dyletswyddau newydd i hybu safonau ymddygiad uchel o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rwyf wedi achub ar y cyfle i adolygu fy nghanllawiau i aelodau. Bydd hyn yn helpu fy swyddfa i’w cefnogi yn eu gwaith a bydd yn helpu pob aelod i ddeall yn llawn y gofynion a osodir arnynt wrth iddynt gyflawni eu rôl.
I gefnogi’r Pwyllgorau Safonau, byddwn yn gwneud rhai mân newidiadau i’n proses. Byddwn yn parhau i rannu ein penderfyniadau â Swyddogion Monitro, yn unol â gofynion deddfwriaeth. Fodd bynnag, byddwn nawr yn rhannu’r gŵyn a’n penderfyniad mewn hysbysiad annibynnol o benderfyniad i hwyluso gwaith y Swyddogion Monitro o rannu’r wybodaeth am y gŵyn gyda Phwyllgorau Safonau (pan fyddant yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny).
Lle bynnag y bo modd, hoffwn weld unrhyw bryderon am ymddygiad aelod yn cael eu datrys yn lleol ac yn gynnar yn y broses. Gall hyn dawelu sefyllfaoedd ac atal yr angen am ddwysâd pellach ac ymchwiliad ffurfiol gan fy swyddfa. Bydd y canllawiau a’r newidiadau yr ydym wedi’u gwneud i’n proses yn cynorthwyo Pwyllgorau Safonau drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am faterion cyfredol, fel y gallant gymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon posibl.
Bydd sicrhau bod Pwyllgorau Safonau yn cael digon o wybodaeth hefyd yn eu cefnogi i lunio cynlluniau hyfforddi. Rwyf i, ac aelodau’r cyhoedd, yn disgwyl i bob aelod fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael iddynt.
Mae Canllaw y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Awdurdodau Tân ac Achub, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Phaneli Heddlu a Throseddu i weld yn y fan hon.