02/11/2022
Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu
Datrys yn gynnar
202203453
Datrys yn gynnar
Cyngor Sir Powys
Cwynodd Mr X i’r Ombwdsmon am broblemau’n ymwneud â chasgliadau sbwriel ac ailgylchu â chymorth Cyngor Sir Powys o’i gartref. Roedd Mr X yn anhapus am fod y Cyngor heb gasglu o’i gartref ar sawl achlysur er ei fod wedi’i hysbysu ei fod yn anabl, a dod i gytundeb i’w gasglu.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor, er ei fod yn cydnabod y methiannau yn ei ymatebion i gwynion Cam 2 Mr X, wedi cymryd camau cywiro priodol i sicrhau na fydd casgliadau’n cael eu colli eto. Nid oedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod camau’r Cyngor yn briodol o ystyried yr anghyfleustra a achoswyd i Mr X.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n llawn i Mr X, i gynnig taliad ariannol gwerth £125 iddo am yr amser a’r drafferth yr aeth iddo’n gysylltiedig â chwyno i’r goruchwyliwr casgliadau gwastraff dynodedig i gysylltu â Mr X i ddatrys y pryderon ac i ystyried pa gamau a ellid eu cymryd i wneud yn siŵr na fydd casgliadau â chymorth yn cael eu colli yn y dyfodol, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith.