Dewis eich iaith
Cau

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl) : Cyngor Abertawe

Dyddiad yr Adroddiad

25/11/2022

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202204313

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Abertawe

Cwynodd Mrs F am nad oedd Cyngor Abertawe wedi cwblhau gwaith a oedd wedi’i drefnu yn ei heiddo. Cwynodd Mrs F hefyd er ei bod wedi cysylltu â’r Cyngor i gael ei diweddaru, cafodd ei negeseuon e-bost eu hanwybyddu, ac ni chafodd ddiweddariadau.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r gwaith a oedd wedi’i drefnu mewn modd amserol, a hefyd nad oedd wedi diweddaru Mrs F. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs F, fodd bynnag, penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mrs F am yr oedi a fu ac i gwblhau’r gwaith sydd wedi’i drefnu o fewn 30 diwrnod gwaith ar ôl llythyr penderfyniad yr Ombwdsmon. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mrs F.

Yn ôl