06/12/2022
Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty
Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol
202105112
Adroddiad nid er budd y cyhoedd wedi'i gyhoeddi: y gŵyn wedi'i chadarnhau
Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cwynodd Mr Y nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliadau rhesymol yn ystod arhosiad claf mewnol ei fab (Mr X) neu ar ôl hynny ym mis Ionawr 2020, a arweiniodd at oedi cyn gwneud diagnosis o ganser Mr X. Cwynodd Mr Y hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliadau rhesymol ym mis Hydref 2020, a oedd hefyd wedi arwain at oedi cyn gwneud diagnosis o ganser Mr X.
Canfu’r ymchwiliad fod ymchwiliadau’r Bwrdd Iechyd i symptomau Mr X ym mis Ionawr 2020 o safon resymol ac nad oedd unrhyw beth i awgrymu bod cyfle i wneud diagnosis o ganser y coluddyn wedi cael ei golli. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad fethiannau yn null y Bwrdd Iechyd o ymdrin â symptomau Mr X ym mis Hydref 2020, gan iddo gael ei ryddhau ddwywaith heb gael lefel briodol o ofal. Arweiniodd hyn at Mr X yn gofyn am gymorth gan y sector iechyd preifat. Serch hynny, daeth yr ymchwiliad i’r casgliad na fyddai dull gweithredu priodol gan y Bwrdd Iechyd ar y pryd wedi arwain at well canlyniad, gan fod canser Mr X wedi datblygu’n barod yn anffodus.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr Y nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliadau rhesymol i symptomau Mr X ym mis Hydref 2020. Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr Y am y methiannau a nodwyd ac i ad-dalu £823, a oedd yn cynnwys y gost a wariodd Mr X yn cael triniaeth breifat. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gynnal adolygiad i ganfod a chymhwyso’r gwersi a ddysgwyd, ac i ddosbarthu a thynnu sylw at ganllawiau priodol ymysg clinigwyr.